Rhwyfodd Arthur at y cleddyf a chydiodd ynddo. Yno diflannodd y llaw dan y dŵr, a syllodd Arthur yn syn ar y perlau drud a addurnai wain a charn y cleddyf. Y cleddyf hwn, Caledfwlch, a fu yn llaw'r brenin Arthur byth ar ôl hyn.
Yn fuan wedyn priododd Arthur y dywysoges Gwenhwyfar, a mawr fu'r llawenydd yn y llys. Yn anrheg briodas rhoes ei thad y Ford Gron i'r brenin, bwrdd enfawr a lle i gant a hanner o farchogion eistedd wrtho. Sefydlwyd Urdd enwog y Ford Gron, a chymerai pob marchog lw i gynorthwyo'r gwan bob amser. Y mae'r chwedlau am farchogion y Ford Gron yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous a rhamantus, a chanodd llawer bardd am eu gorchestion.
Cyn rhyfedded â hanes ei goroni'n frenin yw'r stori am ymadawiad Arthur. Yr oedd ganddo nai o'r enw Medrawd, ac ymhen blynyddoedd troes hwnnw'n fradwr. Dywedodd wrth y penaethiaid fod Arthur, a oedd yn brwydro dros y môr, wedi ei ladd, a chymhellodd hwy i'w goroni ef yn frenin. Brysiodd Arthur yn ei ôl i Brydain, ond casglodd Medrawd fyddin fawr i'w wrthsefyll. Wedi ymladd dwy frwydr boeth, ciliodd Medrawd a'i wŷr i'r gorllewin, a dilynodd Arthur hwy. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar faes Camlan, a bu cyflafan enbyd. Rhuthrai gwŷr a merch yn bendramwnwgl i'w gilydd, gan ddryllio cleddyfau a gwaywffyn a thariannau. Trwy'r dydd hir clywid o bell atsain y brwydro, a gorweddai miloedd o farchogion dewr yn