llonydd ar y maes. Syllodd Arthur yn drist ar y celanedd, ac mewn dig cydiodd yn ei waywffon a rhuthro at Fedrawd a welai'n sefyll yn unig ger ei filwyr marw. Hyrddiodd y waywffon ato a gwelai hi'n gwanu ei gorff. Ond cyn syrthio i'r llawr, trawodd Medrawd Arthur ar ei ben â'i gleddyf, a threiddiodd y blaen miniog drwy'r helm.
Cludodd ei farchog olaf, Syr Bedwyr, y brenin at gapel bach gerllaw, a chlywent oddi draw sŵn lladron rheibus yn ysbeilio cyrff y meirw ar y maes.
"Paid ag wylo, Bedwyr," meddai Arthur. "Cymer Galedfwlch, fy nghleddyf, a dos ag ef i lawr at y llyn acw. Tafl ef i'r llyn a thyrd yn ôl i ddweud wrthyf beth a welaist."
Brysiodd Bedwyr i lawr hyd y llwybr ysgythrog, nes cyrraedd ohono fan unig lle torrai'r dŵr yn frigwyn ar greigiau. Syllodd ar y perlau a ddisgleiriai yng ngharn y cleddyf ac ar y llafn a fflachiai yng ngolau'r lloer. Ni fedrai ei daflu i'r dŵr a chuddiodd ef dan bren.
"Beth a welaist ti, Bedwyr?" gofynnodd y brenin yn wan, pan ddychwelodd ato.
"Ni welais i ddim ond ewyn y tonnau, ac ni chlywais ond sŵn y gwynt."
"A wyt tithau'n troi'n fradwr, Bedwyr? Dos yn ôl at y llyn a thafl y cleddyf i'r tonnau."
Aeth Bedwyr eilwaith a chydiodd eto yn y cleddyf. Fflachiai'r perlau'n loywach a thecach o hyd, ac yr oedd disgleirdeb y llafn yn ei ddallu.