Brysiodd Arthur a'r marchogion oll i lan y dŵr a syllodd pawb yn syn ar y maen o farmor coch ac ar y cleddyf a'i berlau drud. Mewn llythrennau aur yr oedd y geiriau hyn ar garn y cleddyf: "Ni ddwg neb fi ymaith ond y gŵr y crewyd fi i grogi ar ei glun, a hwnnw fydd marchog gorau'r byd."
"Lawnslot," ebr Arthur, "ti yw marchog gorau'r byd. Cais di ei dynnu."
"Na, Syr," atebodd Lawnslot, "gwn nad fy nghleddyf i yw."
Cymhellodd y brenin Beredur a Gwalchmai i gydio'n y cleddyf, ond ni allai un ohonynt ei symud fodfedd. Dychwelodd pawb i'r llys, a chyn gynted ag yr eisteddasant wrth y Ford Gron, caeodd yr holl ddrysau a'r ffenestri ohonynt eu hunain. Yna cerddodd hen ŵr i mewn i'r neuadd, â gwisg wen amdano, ac ni wyddai neb o b'le y daethai. Dug gydag ef farchog ieuanc mewn arfau cochion, ond heb gleddyf na tharian, dim ond gwain ddi-lafn wrth ei glun.
"Tangnefedd i chwi, farchogion heirdd," meddai'r hen ŵr, ac yna troes at Arthur.
"Syr, trwy gyfrwng y marchog ieuanc yma, o linach Ioseff o Arimathea, y cyflawnir rhyfeddodau'r llys hwn."
Wedi diosg rhyfelwisg y llanc, rhoes yr henwr am dano fantell wedi'i haddurno ag ermyn ac arweiniodd ef i'r Sedd Beryglus wrth ochr Lawnslot. Tynnodd ymaith y pali a orchuddiai'r sedd, ac wele lythrennau