aur arni: "Dyma Sedd Galâth, y Tywysog uchel." Eisteddodd y llanc yn y sedd na feiddiodd neb arall eistedd ynddi erioed heb golli ei fywyd. Yna aeth yr henwr ymaith, ac yr oedd ugain ysgwier yn ei aros y tu allan. Yn fuan dug Arthur Galâth i lawr at yr afon, a thynnodd y llanc y cledd yn rhydd o'r marmor coch.
Gyda'r nos honno eisteddodd pawb yn llawen ar swper yn y llys. Yn sydyn clywsant sŵn fel pe bai mil o daranau yn rhwygo'r nefoedd ac yn ysgwyd y ddaear. I mewn i'r neuadd daeth tywyn o olau clir a thanbaid, disgleiriach seithwaith na golau haul yn ei anterth. Edrychodd y marchogion ar ei gilydd heb fedru yngan gair, a gwelent bawb yn harddach nag erioed o'r blaen. Fel pe'n nofio ar y golau, daeth Saint Greal i mewn a throsto orchudd o samit gwyn. Llanwyd y neuadd ag aroglau pêr, ac o flaen pob marchog ymddangosodd y danteithion a'r gwin a garai orau'n y byd. Yna diflannodd Saint Greal o'u golwg.
Diolchodd Arthur i Dduw am y rhyfeddod hwn ar ŵyl y Sulgwyn, a neidiodd Gwalchmai ar ei draed.
"Bore yfory," meddai, "cychwynnaf i chwilio am Saint Greal. Rhoddaf flwyddyn a mwy i'w geisio, ac ar fy llw, ni ddychwelaf i'r llys nes imi ei weld yn gliriach nag y gwelais ef heddiw, os hynny yw ewyllys Duw."
Cododd y marchogion eraill hefyd a thyngu'r un llw, ond taenodd tristwch dros wyneb Arthur.