gartref, gwraig a phlant. Daethom yma'n wŷr canol oed, yn anterth ein nerth, ond awn yn ôl yn flinedig a'n gwallt yn dechrau britho. Er hynny, na ddigalonnwn; penderfynwn y bydd ein llongau'n fuan iawn yn nofio'n dawel a diogel yn yr hafan a adawsom ddeng mlynedd yn ôl."
Yr oedd deuddeg llong, a hanner cant o ddynion ym mhob un. Â chri o lawenydd y tynnodd y gwŷr yn y rhwyfau gan yrru'r llongau'n gyflym i'r dwfn, ac yna lledwyd yr hwyliau gwynion yn yr awel. Torrai blaen pob llong lwybr buan drwy'r tonnau i gyfeiriad y gorllewin a machlud haul. Ond cyn hir cododd gwynt cryf o'r gogledd, a churodd ystorm enbyd ar y llongau, gan eu hysgubo ymhell o'u ffordd. Am ddyddiau lawer llithrasant dros y môr at drugaredd y gwynt, ac yr oedd eu hwyliau'n garpiau i gyd. O'r diwedd daethant at dir dieithr, gwlad dawel a diog. Arni tywynnai haul o awyr las, ddigwmwl, ac ni welsai'r llongwyr erioed y fath ffrwythau a blodau a choed. Cysgai'r bryniau yn niwlen ysgafn, euraid y pellter, a gŵyrai'r coed yn llonydd a digyffro fel pe bai'r awel yn ofni cyffwrdd eu dail. Canai'r adar yn freuddwydiol, ac yr oedd hyd yn oed tonnau'r môr yn distewi a gorffwys wrth y glannau llonydd. Gorweddai pobl y wlad yn swrth a diymadferth o dan y palmwydd, rhai yn cysgu ac eraill yn bwyta ffrwythau melys ac yn yfed gwin. Ac o'u cwmpas ym mhobman yr oedd sŵn miwsig pêr.