Glaniodd tri o wŷr Odyseus i holi beth oedd enw'r wlad, ond wedi i'r tri fwyta o'r ffrwythau, eisteddasant hwythau i lawr yn ddiog, gan anghofio popeth am eu neges, a dymuno aros byth yn nhawelwch breuddwydiol y palmwydd. Bu raid i Odyseus eu cario'n ôl i'r llongau, ac mewn brys y gafaelwyd yn y rhwyfau, rhag ofn i eraill fwyta o'r ffrwythau a syrthio o dan hud y fro ryfedd hon.
Wedi hwylio am rai dyddiau daethant i wlad brydferth arall, ac ar ei bryniau a'i gwastadeddau ffrwythlon tyfai digonedd o yd a haidd, a gŵyrai coed y gwinwydd o dan bwysau'r grawn. Porai cannoedd o eifr a defaid ar y llethrau, ond yn rhyfedd iawn, nid oedd pobl y wlad yn plannu na hau dim nac yn codi tai. Tyfai popeth yn eu tir heb iddynt hwy lafurio o gwbl. Yn y nos a'r niwl glaniodd Odyseus a'i wŷr ar draeth tawel ynys gerllaw, a thrannoeth, wedi cynnau tân, eisteddasant i wledda ar gig y geifr ac yfed gwin o'r llongau.
Y bore wedyn, gan adael y llongau eraill yn niogelwch yr ynys, hwyliodd Odyseus a'i wŷr drosodd i'r tir. Wedi glanio yno, rhwymwyd y llong yng nghysgod craig, ac yna dewisodd Odyseus ddeuddeg o wŷr i'w ganlyn. Fel anrheg i bobl y wlad dug gydag ef groen gafr yn llawn o win melys o'r llong. Yn fuan daethant at ogof anferth â brigau'r llawryf dros ei tho uchel. Y tu allan iddi yr oedd corlannau ac ynddynt eifr a defaid wedi eu rhwymo. Yn yr ogof crogai digonedd o gaws