Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo, y tŷ cyntaf erioed i fod yn ddigon mawr i'w gynnwys ef, ac y rhoddid y frenhiniaeth i Wern yn y tŷ hwnnw. Cymhellodd Branwen ei brawd i dderbyn y cynnig, oherwydd yr oedd ofn yn ei chalon yr âi'r ddwy fyddin i ymladd ac y lleddid milwyr lawer o'i hachos hi.

Adeiladwyd y tŷ anferth, ac yr oedd iddo gant o golofnau. Yna dyfeisiodd y Gwyddyl ystryw i ladd eu gelynion. O boptu i bob colofn crogwyd sach o groen ar hoel, a gŵr arfog ym mhob un ohonynt. Yr oedd felly ddau gant o wŷr yn ymguddio yn yr adeilad. Ond daeth Efnisien, y gŵr cas a fuasai'n camdrin y meirch yn Aberffraw, i mewn i'r lle, a chanfod y sachau ar y colofnau.

"Beth sydd yn y sach hon?" gofynnodd i un o'r Gwyddyl.

"Blawd, gyfaill," oedd yr ateb.

Teimlodd Efnisien y sach a gwasgodd ben y milwr a ymguddiai ynddi, nes ei ladd. Rhoes ei law ar un arall, a gofyn,

"Beth sydd yma?"

"Blawd," meddai'r Gwyddel.

Gwasgodd Efnisien ben gŵr y sach honno yn yr un modd, ac felly yr aeth o sach i sach nes lladd ohono'r milwyr oll. Yna daeth gwŷr Ynys Iwerddon i mewn o un ochr, a gwŷr Ynys y Cedyrn o'r ochr arall. Eisteddodd pawb yn gyfeillgar â'i gilydd, ac yn eu gŵydd oll estynnwyd y frenhiniaeth i Wern, fab Branwen.