Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

cymharu â mi am regu, dyweyd celwydd, a chablu enw Duw." Ymddengys, modd bynag, mai hyn oedd eithaf ei ddrygioni boreuol, ac nad oedd efe na meddwyn na phuteiniwr. Mewn atebiad i'w gyhuddwyr, y mae wedi tystiolaethu yn y modd mwyaf difrifol, “ nad oedd un ddynes, yn un

o'r ddau fyd, a allasai dystiolaethu yn ei erbyn.” “ Cefais fy ngadw yn y modd hwn, " medd cfe, “ nid oherwydd un daioni oedd ynof fi yn fwy nag eraill, ond oblegyd i Dduw drugarhau wrthyf a'm cadw .” Amlwg yw , er i'w gydwybod fyned i gysgu, na chaledwyd erioed mo honi, canys tra yr oedd yn medru ymhyfrydu yn niffeithder ei gymdeithion, eto yr oedd canfod " proffeswyr

crefydd ” yn cyflawni pethau anweddus, yn peri yw enaid arswydo. Unwaith, pan yn uchder ei oferedd, wrth glywed un a gyfrifid yn ŵr crefyddol yn tyngu, gadawodd y fath argraff ar ei feddwl ag i beri cur yn ei ben . Yr oedd ei gydwybod yn cael ei hanesmwytho yn aml, yr oedd tinciad cadwynau Satan yn y

rhai yr oedd yn cael ei brysuro tua dinystr, ar adegau, bron a'i wallyofi. “ Yr oedd yr Arglwydd, hyd yn nod yn fy mebyd, yn fy mrawychu â breuddwydion ofnadwy, a'm dychrynu â gweledig. aethau arswydus.

Pan ymadawodd y breuddwydion poenus hyn å mi, yna gollyngais y ffrwyn

i'm chwantan, ae ymhyfrydais mewn pob trosedd yn erbyn Duw. Yr oeddwn yn flaenor ar fy holl gyfoedion ieuainc mewn pob math o ddrygioni ac annuwioldeb." Yn nghanol y llygredigaethau eithafol hyn, dechreuodd yr Ysbryd Santaidd waith achubol ar ei enaid -- gwaith neillduol, difrifol, îe, gwaith ofnadwy - i gymwyso y llencyn halogedig hwn i fuchedd santaidd-i ddal cymundeb â'r nefoedd — i ddefnyddioldeb rhyfeddol fel gweinidog yr efengyl - i ddyoddef yn amyneddgar erledigaethau pocnus o achos cyfiawnder - i ysgrifenu llyfrau

sydd yn debyg o fod yn fendith i Eglwys Dduw yn mhob oes -i groesi yr afon ddu nad oes yr un bont drosti - ac i lewyrchu yn ddysglaer a gogoneddus yn ffurfafen y nefoedd. 0 , ryfedd ras !

Gyda chorff cryf, yr oedd Bunyan yn meddu hefyd ar wrolder mawr, yr hyn a'i harweiniai i fynych beryglon. “ Dilynodd Duw fi," meddai, " â barnau yn gymysg â thrugaredd. Unwaith syrthiais i gilfach o'r môr, ac yn brin y diengais rhag boddi. Bryd arall syrthiais o gwch, i afon

Bedford, ond trugaredd eilwaith a'm cadwodd yn fyw. Trachefn, pan mewn cae unwaith efo cydy maith, croeswyd y ffordd gan wiber, a chan fod ffon yn fy llaw, tarewais hi ar ei chefn, ac wedi ei syfrdanu, tynais allan ei eholyn a'm bysedd, yr hyn, oni buasai i Dduw drugarhau wrthyf, a allasai ro'i terfyn ar fy mywyd .” Unwaith syrthiodd i bydew dwfn, pan yn teithio yn y tywyll wch, ond diangodd, heb dderbyn dim niwed. Ychwanega Bunyan , - “ Yr oedd yma farn a thru

garedd, ond ni ddarfu i'r naill na'r llall ddeffro fy enaid at gyfiawnder, am hyny parheais i bechu, ac aethum yn fwy-fwy gwrthryfelgar yn erbyn Duw, a diofal yn nghylch fy iachawdwriaeth fy hun .” Yn ystod yr amser yma, arferai fynychu eglwys Elstow, yr hon oedd yn hen adeilad parchus, a'r gloch fyddai yn ei wysio i'r gwasanaeth yn y boreu, fyddai yn y prydnawn drachefn yn galw yr ieuenctyd at eu chwareuyddiaethau. Ar un o'r achlysuron hyn, cymerodd amgylchiad hynod le. Yr oedd y bregeth yn y boreu, yn erbyn tori y Sabboth, argyhoeddwyd ef gan ei gyıl wybod, ac aeth yn druenus iawn. Ond nid oedd hwn onid cyffroad diflanedig, oblegyd tra yr oedd yn bwyta ei giniaw, diffoddodd y tân, fel y mae mewn llawer cydwybod , y mae lle i ofni, o

dan bwys ciniaw y Sabboth. Ysgydwai y bregeth o'i feddwl, yn debyg fel yr ysgydwai ef y dwfr oddiwrtho, ar ol bod yn yr afon, a phrysurai yn awchus at gampau y prydnawn. Ond, yn awr, pan yn nghanol chwareu camp a elwid y gath, dygwyd goruchwyliaeth ryfedd yn mlaen ar ei feddwl.

Gyda chyflymrwydd y fellten saethodd y geiriau hyn i'w enaid , — “ A adewi di dy bechodau, a myned i'r nefoedd, nou a gedwi di dy bechodau, a myned i uffern ? ” Brawychwyd ef yn ddirfawr gan hyn, ac edrychai tua'r nefoedd, oddi yno ynddangosai iddo fel pe buasai yr Arglwydd Iesu yn edrych i iii