Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN.

fe ddialwyd y difrod arswydus a wnaed gan y fyddin freninol o dan lygaid Charles yn Leicester Cymerodd brwydr Naseby le yn mhen ychydig ddyddiau, pryd y drylliwyd y breninwyr yn ddarnau, ac wedi y dydd hwnw, amddiffyniad gwanaidd a wnaeth y brenin, a buan y collodd ei goron a'i fywyd.

Dychwelodd Bunyan at ei alwedigaeth, wedi ei waethygu gan ei fywyd milwrol; ac yn y sefyllfa druanaidd hon, ond o dan arweiniad Duw, (yr hyn beth na cheisiasai erioed,) aeth i'r 'ståd briodasol gyda menyw rinweddol, ond pur dylawd, yr hon a gafodd ei bendithio â thad duwiol. Dywed "Daeth y wraig hon a minau at ein gilydd cyn dyloted a'r tylotaf, heb fod genym gymaint o ddodrefn tŷ â dysgl a llwy, rhyngom ein dau." Yr oedd gan ei wraig, modd bynag, ddau lyfr-Llyfr y dyn Dysyml i'r Nefoedd, ac Ymarferiad o Dduwioldeb, a hi a'i denodd i wneyd ymdrech i'w darllen, a thrwy ymroddiad, cafodd ail-afael yn y gelfyddyd hòno, oedd bron wedi ei hannghofio ganddo. Bu serchawgrwydd mwynaidd ei wraig, yn fendith fawr i Bunyan; tynerwyd ei galon afrywiog, ac ail-deimlodd fraw yn ei feddiannu, yn nghylch iachawdwriaeth ei enaid,