Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

tai, megys yn plygu eu hunain yn fy erbyn.” Er hyny, yr oedd yn gweddïo, hyd yn nod yn ei dywyllwch a'i drallod mwyaf. At bwy y gallai droi ? Yr oedd ei gyflwr tu hwnt i allu dynion nac angelion i'w esmwythau. Ond cafodd noddfa yn Nuw, a chyffro ei feddwl a dawelodd. “ Yma,” i ddefnyddio geiriau Puritan enwog, “ wedi cael ei orchuddio a'r trallod dyfnaf, a hyny am lawer o fisoedd pruddaidd, efe, yr hwn yw Arglwydd natur, a iachaodd ei gorff, ac efe, yr hwn yw Tad y trugareddau, a gyhoeddodd ryddid i'r caethwas, ac a roes orphwysdra i'w enaid blinderog.”

Yr allwedd a agorodd holl glöiau Castell Amheus, ac a roes ryddhad i'w ysbryd trwm lwythog oedd Heb. ii. 14, 15— “ Oblegyd hyny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfranog o'r un pethau ; fel trwy farwolaeth y dinystriai efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hyny yw diafol ; ac y gwaredai hwynt y rhai trwy ofn marwol aeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed .” Yr oedd ei brofiad poenus yn peri fod addewidion y Beibl yn fwy cynefin, eglur, a gwerthfawr. "Pechodau mawrion a dynasant allan ras mawr; ” a pho mwyaf brawychus a llym oedd yr euogrwydd, mwyaf uchel a nerthol yr ym ddangosai trugaredd Duw yn Nghrist. Tra y cadwodd Duw ef yn ysgol profedigaeth, yr oedd pob uchenaid, pob pangfa chwerw, a phob pelydryn o obaith wedi ei bwriadu i'w gymwyso i'w waith dyfodol fel pregethwr ac ysgrifenwr. Dywedai ei fugail am dano, “ Y mae, trwy ras, wedi enill y tair gradd nefol hyn — sef undeb â Christ, eneiniad yr Ysbryd, a phrofiad o demtasiynau Satan, y rhai sydd yn gwneyd mwy tuag at gymwyso dyn at y gwaith mawr o bregethu yr efengyl na'r holl ddysgeidiaeth a'r graddfeydd athrofaol y gellid eu cael.”

Ei brofiad hynod, ei gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyr, ei deimlad dwys o werth enaid , yn nghyd â'i rwyddineb ymadrodd, a dueddodd ei fugail â'r eglwys i'w gymell i ymgymeryd â gwaith y weinidogaeth. “ Tarawodd a chywilyddiodd hyn fy ysbryd ," meddai,“ yn fawr iawn." Ond eu taerineb a drechodd ei annhueddrwydd, ac felly, “ yn gyfrinachol, mewn gwendid mawr, amlygodd ei ddoniau iddynt,” yna hwy a'i cymellasant i bregethu yn y pentrefi oddiamgylch i Bedford. Fel pregethwr, ymddenys ei fod yn astudio ei faterion yn ofalus cyn ei gosod o flaen ei wrandawyr, a'i fod wedi ysgrifenu nodiadau o'i holl bregethau.


ix

с