Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwynasgar i mi tros amser fy arhosiad yno, arfaethais gyfansoddi ychydig o englynion iddo fel hyn:—

Yn iraidd fel yr hen Aaron—fedrus
Oedd dafodrydd berson,
Triga fyth Trogwy o Fon,
Mewn cynydd yn Mancenion.

Bydd glodwych, orwych wron,—gwiw nodwedd,
A gweinidog ffyddlon;
Gwawrio dan nefol goron
Wna dy waith, yn nhŷ Duw Iôn.

Ymwria a'th ddoniau mawrion,—deffro
Rai diffrwyth yn Sion;
Y saint gorau'n llwythau llon,
Gei felly'n bur gyfeillion.

Gwilia a chymer galon,—ag enill
Ganuoedd yn ddysgyblion;
Rhai gweithgar, breingar ger bron,
A selawg ddewisolion.

Gochel ddichellgar guchiau,—erchyllaidd
Archiollwyr teimladau;
Bydd dringar wrth glodgar glau,
Foddolion rhydd feddyliau.

Gweithia ar g'oedd, pregetha'r gair,—bydd daer,
Bydd dirion ŵr diwair;
Gwna dy ran heb ofu anair,
'N mhob modd fel cenad Mab Mair.

Bydd dyfal a gofalus,—a thrwyadl
Mown athrawiaeth iachus;
Dal yr iawn, didola'r ûs,
A brwd araith bryderus.

Dysga bob enaid fo'n disgwyl—wrthyt,
Ymuertha i'r gorchwyl;
Yn llawn cariad, harddfad hwyl,
Trig yna, Trogwy anwyl.