Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi hyny ymadewais o Bangor, a dywedais yn ddioed fel y canlyn:—

Hwyliaf oddiyma'n hoywlon,—draw a fi
I dre' fawr Caernarfon;
Tariaf yn mysg cantorion
Dan haul dri diwrnod yn hon.

Gwed'yn nid teg yw oedi—'n rhagor,
Rhwygaf rhwng clogwyni;
Tua Meirion freinion fri,
'N wrol cyn i'r hin oeri.

Tariaf un-nos mewn tref enwog, —hynod
A'i henw Porth Madog;
Dedwydd Borth beidd godidog—sef Emrus
A Ioan weddus, dau awenyddog.

Yna mewn bâd yn union,—hynt einoes,
Anturiaf drwy'r afon;
I Harlech wech ar frech fron,
Pwynt tra mawr, pen tre' Meirion.

Gadael Harlech wnaf gwed'yn,—a ffrystiaf
Rhwng fforestau'r dyffryn,
I'r Bermaw a'm dwy law'n dynn,
Ar ymylau'r aur melyn.

Brysiaf i'm dedwydd breswyl,—oddi yno
Yn hawdd iawn 'rwy'n disgwyl,
Ynot Dolgellau anwyl,
Cyd a f' oes y cadwaf Wyl.

Ond wedi cyrhaedd adref, a chyfarch gwell i'm cyfeillion yn Nolgellau, deallais yn fuan na thalai i mi gadw gwyl yn