Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna dychwelais at y palas gyda'm cyfaill; ac wedi ciniawa, cyfansoddais yr englynion a ganlyn iddo ef a'i deulu caredig;

Mynwesawl gymwynasydd—yw Rowlands,
A gwr hael-wych beunydd;
Dewr ethol lywodraethydd,
Cariadlon, rhadlon, a rhydd.

Llênydd coeth, dillynaidd cu, — a hybarch
Ohebydd diballu;
A llongar wr llawen-gu,
Llawn o barch-ei well ni bu.

Siriol amaethydd seirian,—goludog,
A gwladwr mwyneiddlan;
Un enwog o iawn anian,
A gwych gyfnerthwr y gwan .

I Rowlands fawr ei alwad,— a'i deulu,
Dihalog a gwastad;
Boed llwyddiant a mwyniant mad,
Teilwng heb un ataliad.


Gwedi hyny ymadewais, ac aethym drwy bentref Llanegryn, i fynu i Ty'n-llan, i ymweled â Mr. a Mrs. Lewis, Dyma y fan y ganwyd y farddones gampus hòno Ellen Egryn, a'i chwaer hynaf hi yw y wraig gariadus sydd yn byw yno yn awr . Cefais dderbyniad caredig ganddynt hwy fel teulu . Wedi cyflwyno fy niolchgarwch iddynt, aethym i Dyddyn y Blaidd, i gyfarch gwell i'r hen batriarch, Mr. Lewis Hartley a'i wraig fwynaidd. Ar ol i mi orphwys ac ymddyddan am y naill beth a'r llall, daeth yr hen fardd a chryn gyfrol o Bryddestau i'r bwrdd o'i waith ei hun. Tybiwyf fod yn rhai o honynt radd fawr o gywreinrwydd, addewais fyned yno am ddeuddydd neu dri i edrych drostynt, a'u hadolygu . Pwy a wyr na fydd i'r hen fardd eu hargraffu yn llyfr cyn pen hir? Gwedi diolch iddynt am eu croesawiad, aethym yn ol i Lanegryn, a galwais gyda Mr. John Williams, pregethwr doniol gyda'r Annibynwyr yn