Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1 41 Hen olwyn fawr rhagluniaeth wrth dirion arfaeth Duw, Yn hylaw a'm cynhaliodd drwy uniawo fodd yn fyw; Er amled oedd y maglau a rhwydau o bob rhyw, Ce's ddychwel mewn tawelwch a diogelwch gwiw. 'Rwyf heddyw'n benderfynol, mae'n ddefosiynol swydd, Mydrydiu cân ysbrydol wrth reol berffaith rwydd; O foliant i'm Creawdydd, Pen-llywydd nef a llawr, Yr hwn sydd wedi farbed â'i nodded hyd ya awr. Ni ddichon dyn oedrauus, anfedrus fel y fi, Byth lunio mewn myfyrdod un teilwng glod i ti, Sydd gadarn Dduw aufeidrol, a nerthol Dri yn Un, Yn mhell uwch law gwybodaeth a dealldwriaeth dyn. Cerubiaid a Seraphisid, anwyliaid pur y nef, Ymgrymant mewn gorchwyledd o flaen ei orsedd Ef, Gan guddio eu hwynebau-rho'nt eu coronau i lawr Wrth draed yr Iôr tragwyddol sydd ya anfaidrol fawr. Gan hyny deffro f'enaid, yn danbaid nos a dydd, Goruchel f'o dy grechwen ar danau'r awen rydd, Yn seinio cân gysonaidd a pharadwysaidd don, O glodydd cyflwynedig i'r bendigedig Ion. Yr Arglwydd mawr ei allu sydd yn teyrnasu'n wir, Efe yw Llywydd cyfion, eithafion môr a thir; Ac hefyd ceir, mae'n eglur, aneirif deulu'r nef, Yn plygu mewn ufudd-dod, dan ei awdurdod Ef. Mae dyled ar ddynolion yn gyson oll i gyd, Glodfori Llywodraethwr, a Barnwr mawr y byd;- Mae'n deilwng o anrhydedd, y parch a'r mawredd mâd, A hyny yn ddiddiwedd er clod i'w ryfedd råd. Boed i mi gael fy nerthu, a'm dysgu yn ddi dawl, I eirio cân soniarus o barchus fedrus fawl; I'r Brenin mawr tragwyddol, anfeidrol y nef wen, Y byddo'r holl ogoniant, a'r moliant byth, Amen. Ionawr 20, 1855. MEURIG EBRILL. [Gan fod genyf gyfnod rhoddaf yr hyn a ganlyn yn chwan- egiad at hanes y "Teithiau."] D3 Dighted by Google