Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe anwyd, clod i'w enw,
I gadw'n gu'r holl seintiau sy,
A rhei'ny ddaw'n ddiomedd,
Yn fwynaidd, ac a fu;
Ei gariad ef a'i gyrodd,.
O'i fodd i fyw at ddynolryw,
I'w hachub hwy trwy achos,
Mae'n dangos hyn, on'd yw?
Ni buasai dyn cadwedig,
Oni b'ai i'r Oen diddig, Meddyg mawr,
Dd'od ato ef o entrych nef,
Pan glybu ei lef i lawr;
Ac yn ei waed fe'i cafodd,
Ac yno ym'gleddodd ef yn glau,
Rhoes win i'w friw, ac olew gwiw,
Gwnai'r cyfryw heb nacâu.

Hysbysaf beth yn mhellach,
Ddeheuach hyn i'r sawl a'i myn,
Pwy oedd y dyn lled farw,
A'i waed yn llanw'n llyn;
Hen Adda gynt a bechodd,
O'i fodd ei hun, gan lygru ei lun,
A phawb ar fyr â'i'n farw,
Yn hwn tan enw un;
A'r holl archollion hynod,
Yw briwiau pechod, trallod drud,
I olwg ffydd maent eto heb gudd,
Gwn beunydd yn y byd;
A'r gwin a'r olew, gwelwch,
Yw gras da a heddwch Crist ei hun,
A roes i'r saint, hyfrydol fraint,
Er lladd yr haint a'i llun.

I brynu y bobl yma,
Mi brofaf hyn, bu'r Iesu gwyn, Yn colli ei waed, mi dd'weda',
Ar ben Calfaria fryn;
Peth mawr na choll'sem ninau
Rai dagrau dwys, trwy ffydd a phwys,