Am ras, os y'm heb gaffael,
Cyn myn'd mewn cesail cwys;
Os digwydd dydd marwolaeth,
Cyn troadigaeth, alaeth yw,
Nid eiff heb ras na gŵr na gwas,
I addas deyrnas Dduw;
Ond rhwn sy'n byw'n ysbrydol,
Gan rodio wrth reol grasol Crist,
Duw'n ddiau a ddaw â hwn rhagllaw
I'r nefoedd draw'n ddi drist.
DANIEL JONES.
CAROL 19.
Mesur—GWEL YR ADEILAD.
RHOWCH osteg yn ystyriol, drwy gariad yma i Garol, Iawn fuddiol foddion;
Er gwaeled ei gynghanedd, mae ynddo o'i ddechreu i'w ddiwedd,
Wirionedd union:
'Roedd Duw, cyn bod creadur byw,
Yn Ysbryd hapus,—gwae sy'n amheus
Oi allu a'i 'wyllys, cariadus, gweddus, gwiw,
Mae'r 'sgrythyr oll yn gytun yn dangos hyn, on'd yw;
Di frad, gwnaeth ef angylion gâd,
I'w wasanaethu a'i anrhydeddu,Heb. i. 14.
A'r moddion hyny oedd yn cyd—dynu â'r Tad,
Fel hyn amlygai ei agwedd wir gariad rhyfedd rhad.
A Lucifer mewn rhyfyg, gyfodai'n felldigedig,
Wenwynig anian;
Mewn balchder brenin pechod, chwennychodd drechu'n hynod, Dduw ei hunan;
'Run awr aeth Lucifer i lawrDat. xii.
O'r nefoedd uchod i'r ddaear isod,
Y pwll diwaelod, gan godi ei wiwnod wawr;
Am ch wennych m or anmharchus i'r Arglwydd moddus mawr;
O'r nyth, lle syrthiodd ef drwy druth,
Nid eill mo'r dringo, os yw'n ewyllysio,
Gau rwymiad sy arno, sef yno i'w suddo'n syth,
Heb ob aith cael cyfnewid o'i adfyd funud fyth.