farw o'r darfodedigaeth, Awst 12, 1846, yn 32 oed. Yr oedd ei rodiad diargyhoedd, ei weddiau taerion, a'i lafur egniol, ynghyd a'i brofiadau uchel o bethau ysbrydol, yn ei hynodi feł Cristion.— (Gwel yn helaethach yn Geir. Byw. Aberdar.)
ARWYSTLI (HUW).—Bardd a flodeuodd rhwng 1540 a 1570. Bernir mai tua'r Abermaw y trigianai. Y mae swm o'i farddoniaeth yn nghadw mewn llawysgrifau. Dywed hen ysgrif yn y Brython mai yn Llanelwy mae ei fedd.
BRONWEN ydoedd ferch Llyr, a chwaer i Bran.[1] Y mae
Mabinogi Bran Fendigaid yn egluro i ni beth a ddeallir wrth yr
ymadrodd hwnw. Yr oedd Bronwen yn aneddu yn Harddlech,
Meirion, yr hwn le a elwid gynt oddiwrthi hi, Tŵr Bronwen; a
cheisiwyd a chafwyd hi yn wraig gan Metholwch, Brenin Iwerddon. Gan iddi gael wedi hyn sarhad ganddo, hi a adawodd у wlad,
i ddychwelyd adref; ond wrth ddyfod i dir yn Nghymru,
dywedir iddi edrych yn ol ar Iwerddon, gan feddwl am y sarhad a
gafodd, a thori ei chalon. Bran, i ddial sarhad ei chwaer, a ym
osododd ar Iwerddon, ac a ddistrywiodd agos holl drigolion y
wlad. Dywed y chwedl hefyd ddarfod i fedd pedwar-ongl gael ei
wneyd i Bronwen ar lanau yr afon Alaw, ac iddi gael ei chladdu
yno. Gwnaed darganfyddiad neillduol o bwysig yn y flwyddyn
1813, sydd yn rhoddi coel fawr ar yr ysgrifeniadau Cymreig, fel
mai yn yr amgylchiad hwn y cafwyd fod y chwedl yn sylfaen
edig ar ffaith hanesiol. Yr oedd amaethwr yn byw ar lanau yr
afon Alaw, yn Môn, a chanddo eisiau rhyw gerig, ac aeth i'r
garnedd yn ymyl yr afon, ac wedi symud amryw daeth at gist o
lechi geirwon a chauad drosti. Wedi symud y cauad, efe a ganfu
ysten o ddaear neu glai haner-crasedig, oddeutu troedfedd o
- ↑ Buasai yn dda genym allu rhestru Bran ab Llyr Llediaith, neu Bran Fendigaid, ymhlith enwogion Swydd Feirion, sef brawd ' Bronwen Harddlech, yr hwn a ddygodd yr efengyl gyntaf i Brydain; ond y mae yr anturiaeth yn rhy bwysig, er fod y Mabinogion yn dywedyd y "cadwai Bran ab Llyr ei lys yn Harddlech;"oblegidfe ddywed y Parch. O. Jones yn ei " Hanes y Cymry," tudalen 70: — " Yr ydym yn cael lle i feddwl mai penadur ar yr Essyllwyr, y rhai a gyfaneddent Ddeheubarth Cymru, ydoedd Bran, pan y'i cymerwyd ef ynghyd a'i fab Caradog yn garcharorion, ac nid yw yn annhebyg iddo,ar ei ddychweliad o Rufain, fyned i'r un wlad i gartrefu, ymysg ei bobl a'i geraint; ac felly, gyda'r Essyllwyr y gellid meddwl i'r efengyl gael ei phregethu gyntaf o fewn yr ynys hon, ac oddiwrthynt ymdaenai y gwirionedd yn lled fuan at y llwythau cyf nesol, yn enwedig y Gordotigwys, y rhai oeddynt mewn cyfathrach o'r agosaf â'r Essyllwyr, os nid yn ddeiliaid yr un penadur tua'r pryd dan sylw."