Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gelligaer gan afon Bargoed hyd Bont-yr-yswain; ar ei gwr deheu-ddwyrain oddiwrth blwyf Llanfabon gan Bargoed a Taf, hyd y cwr eithaf de-ddwyrain o dyddyn Godrecoed, sef Rhyd-y-binwg.

Derbyniodd y lle hwn ei enw oddiwrth Tydfil, unfed ferch ar ugain Brychan Brycheiniog, yr hon yn nghyd a'i thad a'i brawd Rhundremrudd a roddwyd i farwolaeth gan haid grwydrolo Saxoniaid a Gwyddelod Pictaidd oeddynt yn cario tân a chleddyf, gan anrheithio gwlad ein tadau ryw bryd yn niwedd y bedwaredd ganrif. Nid hir y bu rhai o'n cydgenedl y Cymry cyn codi yma Eglwys er coffadwriaeth am y weithred ysgeler hono. Fel merthyron y darfu i'r tri hyn syrthio, ac fel merthyr y mae Tydfil wedi cadw ei henw dros ychwaneg nâ thri chant ar ddeg o flynyddoedd, ac yn hysbys bellach agos trwy bob cwr o'r byd gwareiddiedig. Dydd ei choffadwriaeth a ddisgyna ar y 24ain o Awst. Nid oedd yn y lle hwn, yn ol ei hanesiaeth foreuol, ond rhyw nifer fechan a gwasgaredig o dai amaethwyr a bugeiliaid; ac yn y sefyllfa hon, nyni a'i dilynwn i lawr dros agos i saith cant o flynyddoedd heb allu nodi dim ag sydd yn teilyngu unrhyw sylw neillduol hyd nes y deuwn i gyffyrddiad ag hanes Dau le nodedig—Castell Morlais, a'r Court House. Mae traddodiad yn mhlith hen bobl fod eu teidau yn cofio am gyfarfodydd llewyrchus a gynaliwyd gan y diwygwyr Protestanaidd dan hen ywen ger y ty hwn. Ceisia rhai ein darbwyllo i gredu fod y lle olaf yma yn aros er ys rhagor na dwy fil o flynyddoedd, am y barnent ei fod wedi cael yr enw Cohort oddiwrth y Rhufeiniaid, lle bu nifer benodol o'u milwyr oedd yn arwyddo yr enw, yn gwersyllu.

Cohort, neu yn hytrach y Court House, fu unwaith yn gyfaneddle rhai o arglwyddi Morganwg a Senghenydd uwchaf. Gallwn farnu mai tua'r llecyn hwn yr oedd Brychan Brycheiniog, yn nghyd a'i fab a'i ferch yn cyfaneddu pan y syrthiasant yn ebyrth i gynddaredd estroniaid ysbeilgar a nwydwyllt, ac nad ydyw y lle hwn wedi bod yn ddim amgen na phreswylfan arglwyddi a boneddigion yn ystod yr holl oesau dilynol. Barna rhai fod Ifor Bach yn byw yma tua'r flwyddyn