Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1,110, yn yr hwn le yr oedd yn byw pan yr adeiladodd Gastell Morlais, ac y gwnaeth ei ymosodiad gyda byddin o wyr ar Gastell Caerdydd, pryd y cymerodd Robert, Iarli Caerloyw a'i foneddiges yn garcharorion, a'u cadw felly yn y caethiwed hyd nes iddynt addawi'r Cymry eu holl freintiau cynhenid yn nghyd a chyfreithiau Hywel Dda. Ac yna nid oes genym un hanes nodedig am y lle hwn hyd nes yr ydym yn ei gael yn mherchenogaeth Lewisiaid y Van, ger Caerffili,ac un Soberton, o Southampton; un o achau y Clives; ac yna yr ydym yn ei gael yn meddiant Mr. Thomas Rees, trwy bryniad, yn nghyd a'r Werfa, yn mhlwyf Aberdar, am £400, oddiwrth un Harri Edwards, o Tanygraig, yn Mrycheiniog. Y Thomas Rees hwn oedd y cyntaf o achau presenol y Court, ag a fu yn byw yma.

Pan yn ymweled a'r ty hwn mae'r bardd a'r hynafiaethydd yn cael eu llenwi a myfyrdodau, a'u cario yn ol gan eu meddyliau i ryw gyfnod boreuol pan nad oedd yma ddadwrdd na thwrf masnach yn aflonyddu ar ddystawrwydd y creigleoedd anial ac anhygyrch a'u hamgylchynai, na dim i'w glywed ond gwaedd y bugail, brefiadau y defaid a'r wyn, a'r gwartheg, yn nghyd a si furmurawl y gornant fechan wrth ymlithro i lawr rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion i'r afon Taf. Dynoda yr holl adeilad hwn orwychedd ac urddas henafol yn ei ystafelloedd eang a'u lloriau gleinion o dderw-ystyllod yn ei gynteddau a'i fynedfeydd addurnol, gyda'i flodeuwaith cerfluniol, ac heb gynifer ag un hoel yn cysylltu unrhyw ran o'r adeilad; yr oll yn cael ei ddal yn nghyd â phiniau coed, hyd nes yr adnewyddwyd ef yn ddiweddar gan y perchenog—y diweddar Dr. Thomas, ynad heddwch yn Merthyr.

Castel Morlais a dderbyniodd yr enw oddiwrth Nant Mawr-lais, neu Morglais. Adeiladwyd, ef meddir, gan Ifor Bach, tua dechreu y 12fed ganrif, er mwyn bod yn am ddiffyniad i'w etifeddiaethau, rhag ymosodiadau gorthrymus oddiar y tiriogaethau cyffiniol, gan arglwyddi Brycheiniog,y rhai a ruthrent ar y lle yn awr ac eilwaith yn achlysurol; ac yn nheyrnasiad Harri I. yr ydym yn ei gael yn meddiant yr un.