Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfarfod yn ddyogel yn y lle hwn, teithiasant tua Merthyr Tydfil, ar gefnau ceffylau a mulod; ac nid bychan oedd eu syndod pan y gwelsant mor ddistadl a dinod oeddy lle, gyda'i dai bychain a'u nenau gwelltog, y rhai oeddynt yn ddigon isel i ddyn allu cyrhaedd, gyda llaw ddyrchafedig, nyth y dryw oedd yn eu godreuon. Ond modd bynag, tarawsant ar unwaith yn nghyd a'r gorchwyl o drefnu pethau ar gyfer gweithio morthwylfa, yn ol cais a dymuniad Anthony Bacon, yr hwn a gafodd yn fuan weled ei amcanion a'i gynlluniau wedi dyfod i weithrediad. Y diwrnod y dechreuodd y forthwylfa hon weithio yr oedd gweithwyr Dowlais a'r gymydog aeth yno ar y pryd, ac un Shoni, Cwmglo, yn chwareu ei delyn undant i'r gwyddfodolion, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1782. Bacon, wedi gwreuthur cytundeb a'r tri brawd a enwasom, sef Samuel, Jeremiah, a Thomas Humphrey, fod iddynt gael y forthwylfa at eu gwasanaeth am £200 yn y flwyddyn, ond ei fod ef i'w di diwallu a'r hyn a alwai y gweithwyr Cymreig yn haiarn foch (iron pige) am £4 10's. y dunell, a'r glo i fod at eu gwasanaeth am 4s. y dunell. Gweithiodd y forthwylfa hon yn rhagorol am tua dwy flynedd, pryd y dygwyddodd ychydig o groes ymddyddan rhyngddynt am fod yr haiarn oedd at gario yn mlaen eu gwaith yn prinhau. Samuel, yn ei nwyd, a ddywedodd y mynai ef ddigon, ac aeth yn nghyd a'r gorchwyl o ollwng allan o un o'r ffwrnesau, pryd y cymerodd ysgarmes le rhwng gweithwyr y forthwylfa a gweithwyr y ffwrnesau, yr hyn a derfynodd yn i'r Humphreys rhoddi pob hawl oedd ganddynt yn y gwaith i fyny ar yr un amodau i Mr. Tanner, yr hwn a'i rhoddodd yn fuan i fyny i un Richard Crawshay, Ysw., Cockshut, a Stephens. Un o'r gofaint cyntaf a weithiodd yn y lle hwn oedd William Jones, tad yr hanesydd Phillip Jones, Mynwent y Crynwyr, yr hwn a fu yn gweithio yma ar einion o haiarn bwrw, yr hyn sydd beth anarferol ond o dan amgylchiadau neillduol. Priodol i ni grybwyll, cyn myned yn mhellach, mai gwaith y forthwylfa hon, gan mwyaf, yn ystod y blynyddau dilynol oedd gwneud cyflegrau, yn ol y cytundeb ag oedd Mr. Bacon wedi ei wneud a'r