Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llywodraeth, yn amser rhyfel America, yr hwn a dorodd allan yn haf y flwyddyn 1775, ac a barhaodd mor ddinystriol, ar du Prydain yn enwedig, dros 7 neu 8 o flynyddau. Cludid y rhan fwyaf o'r haiarn o'r lle hwn cyn hyny ar gefnau ceffylau, &c., weithiau i lawr: drwy Gwmnedd i fyned a'u llwythau i Gaerdydd, ac weithiau i lawr drwy Gwm-taf; a phan yn cymeryd y ffordd hon, arferent ddadlwytho ger Pontypridd, mewn lle a elwir Halfway House, lle newidient eu ceffylau, &c. er mwyn cymeryd y llwythi i Gaerdydd. Mr. Bacon, yn y cyfamser yn gweled nad allai ddwyn ei gytundeb a'r llywodraeth i weithrediad a therfyniad anrhydeddus, heb wneuthur gwell heol o Ferthyr-Tydfil i Gaerdydd, rhoddodd wahoddiad i amaethwyr cyfrifol Cwm-taf i ddyfod i giniawa ato ef er mwyn ceisio trefnu cynlluniau i gael prif ffordd dda rhwng y ddau le a nodasom. Ac wedi iddo eu llenwi â danteithion a gwirod, mewn parlwr clyd, yr hyn bethau nad oes gan y cloddiwr a'r ceibiwr daear ddim gwell na dirnad amdanynt i geisio llenwi ei fol a'i feddwl. Llwyddodd i gael gan yr hen fechgyn gwledig, yn eu gwisgoedd llwydion, i'w dda ddilyn yn ngwydd tystion, a chroes-nod ar bapyr gan bob un o honynt, am symiau lled dda i gael y bwriad i derfyniad; o herwydd llygadent ar eu mantais eu hunain o gael heol dda yn gystal a lles yr haiarn farsiandwr. Wedi cael hyn oddiamgylch, dechreuodd y gwaith o drosglwyddo cyflegrau ar olwynion tua Chaerdydd-pob un o honynt yn cael ei dynu gan un ar bumtheg o geffylau; ac yr oedd yr heol yn derbyn y fath niwed oddiwrth y fath bwysau fel y cymerai fis o leiaf i ddyn i'w hadgyweirio cyn gellid gwneud siwrnei arall. Ac mae'r lle yn Nghaerdydd oeddid yn arferol o’u llwytho i'r llongau yn cael ei alw hyd heddyw Cannon Wharf. Tua therfyniad y rhyfel Americanaidd, er mwyn galluogi ei hun, yn unol â chymelliad ei gyfeillion i sefyll ei le yn Aelod Seneddol dros Aylesbury, rhoddodd ei gytundeb a'r llywodraeth i fynu i'r Caron Company, yn yr Alban; yr oedd hefyd wedi gwneud cytundeb a R. Crawshay,Ysw. am yr oll o'i hawl yn