Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan y teulu oedd yn byw ar y tyddyn hwn brydles ar arwyneb amrai o'r tiroedd cylchynol. Ac yr oedd gan Gwmni Dowlais brydles ar y glo dan rai o'r tiroedd hyny; felly, yr oedd gan yr Humphreys i amodi â'r ddwy ochr. Ac yr oedd pedair punt yn y flwyddyn, yn ol ewyllys John Williams, i'w talu oddiar un o'r tiroedd hyn, o'r enw Tonyffald, at roddi addysg i blant aelodau gweiniaid yr Ynysgau, oedd un ran, a'r rhan arall tuag at eu dilladu. Cymerodd yr ewyllys hon le tua'r flwyddyn 1735.

Wedii'r Humphreys ddwyn y pethau hyn oddiamgylch, adeiladasant ffwrnes yn y flwyddyn 1782, un arall yn y flwyddyn 1796, ac yn nesaf, yn y flwyddyn 1811, adeiladasant yma y drydedd ffwrnes, yn nghyd a dwy felin-dro (rolling mills). Yn y flwyddyn 1806, llwyddasant i anfon ymaith 6,963 o dunelli o haiarn. Erbyn y flwyddyn 1815, yr oedd ganddynt bump o ffwrnesau, a llwyddasant i anfon 7,800 o dunelli o haiarn, yr hyn oedd tua 80 tunell yr wythnos. Erbyn 1845, yr oedd ganddynt saith o ffwrnesau, ac anfonasant yn y flwyddyn hono 15,000 o dunelli. Yr oedd y gwaith hwn y pryd hwnw yn agos yn ei ogoniant, a'i radd uwchaf o rwysg, yn cadw rhwng tair a phedair mil yn gyson o weithwyr, a'u cyflogau yn cyrhaedd tua'r amcangyfrif misol o £12,000 i £16,000.

Tua'r flwyddyn 1830, daeth yn hollol i berchenog aeth Mri. Thompson a Forman. A thua'r flwyddyn 1854, a 1855, agorasant lo-byllau Cwmbargoed, i'r dyben o gael glo at eu gwasanaeth; o herwydd cyn hyny, yr oeddynt yn arferol o'i gael oddiwrth Gwmpeini Dowlais, a'r olaf yn gorfod cael rhan o'u mwn oddiwrth Gwmpeini Penydaren. Tua phum mlynedd yn ol daethant i ryw anghydwelediad a Chwmpeini Dowlais, mewn perthynas i'w hiawnderau a'u terfynau i weithio eu glo; ac wedi manwl ymchwilio ar y ddau du, cafwyd fod Cwmpeini Penydaren mewn dyled enfawr i Gwmpeini Dowlais, fel y penderfynodd y blaenaf adael i'w Gwaith sefyll, yr hyn oedd yn ergyd dwys a chwithig i weithwyr a masnachwyr Penydaren a Merthyr yn gyffredinol; ac aeth y wasg Seisneg mor hyf a'i alw The