Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu plith cofnodwn, i ddechreu, y gymwynas haelionus a charedigol o werthu calch yn Pentrebach, am bris rhad a gwir resymol; yr hyn oedd mor fanteisiol i am aethwyr ac adeiladwyr, mewn gwlad a thref mor gynyddol a Merthyr. Nid oedd arno yr un rhwymau i wneud hyn, ac nid oedd yr elw a allasai ddeillio iddo oddiwrth y fath beth, a chymeryd dan ystyriaeth y draul o godi y ceryg calch a'u cludo oddiwrth Gastell Morlais i'r Pentrebach, yn ei argymhell i wneud hyny gymwynas, nac unrhyw beth arall, feddyliwn, ond egwyddor wirfoddol dros lesoli ei gydgreaduriaid yn unig. Yr oedd A. Hill, Ysw. yn meddu ar lygạid craffus a threiddlym meddwl ystyrbwyll, gwybodaeth eang, a chalon lawn o gydymdeimlad. Dichon nad oes neb o'r haiarn feistri yn deilwng o gael eu rhesu yn ogyfuwch ag ef yn y pethau hyn. Pan y byddai gweithiwr methiantus yn ei waith, yn analluog i enill ei gynaliaeth, ni wnai ef efelychu arferion rhai o'i gyd-feistriaid tuag ato trwy ei adael o'r neilldu i drugaredd y byd a'i helbulon ar ol iddo dreulio boreu ei oes yn ei wasanaeth, ond ymddygai tuag ato fel tad neu frawd, a mwy tirionawl, feallai, nag yr ymddygasai unrhyw berthynas. Rhoddai iddo waith a allasai yn rhwydd ei gyflawni, a modd i'w gynal am ei wneuthur. Colled anadferadwy oedd colli gwr o nodweddion Mr. Hill, oblegyd tra thebygol yw na welir ei fath yn fuan ar ei ol, os byth. Pan y cwympodd y gwr mawr hwn, teimlodd holl breswylwyr yr ardaloedd, ac yn wir nid heb achos, os bu achos teilwng i drigolion Merthyr a'r cyffiniau, yn fasnachwyr a gweithwyr, i wisgo eu galar wisgoedd rywbryd, yr ydym yn sicr mai ar y dydd yr hebryngwyd ef i'w hir artref—y gwr fu yn offerynol i ddyrchafu Merthyr a Throedyrhiw, oedd yr adeg addasaf erioed yma i arddangos y fath brudd-deb, yr hyn a wnawd gan dorf alarus, na welir ond yn anaml ei chyffelyb, ar y 9fed o Awst, 1862, pan oedd yn ei 77 mlwydd oed. Heddwch i'w lwch.

Daeth ei holl eiddo yn feddiant i Mr. Fothergill Hankey, Bateman, &c, trwy bryniad oddiwrth ei etifeddion, am £250,000, yn niwedd yr haf diweddaf, 1863.