Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hawdd ymddibynu arno mai hwn oedd y lle cyntaf ei gweithiwyd yn y plwyf. Ond i'r dyben o roddi hysbys rwydd i'r oesau a ddel, ni a gofnodwn rai o'r lleoedd cyntaf y gweithiwyd glo at wasanaeth y wlad yn gyff redinol.

Cwmyglo, Cwmdu, ger Troedyrhiw, lle bu yr hen lysieu-feddyg enwog, adnabyddus wrth yr enw Abram y Doctor yn byw.

Coedcae, Tyntal-dwm, Craig-tir-y-Cook, a gwythien Shan-Wil-bach, yr hon ydyw yr isaf yn y plwyf ag y bu gweithio arni. Ysgubwyd olion y gwaith bychan hwn oedd ar gyfer godreu Ynys-pont-y-gwaith pan y gwnawd cledrffordd Dyffryn-Taf, tua'r flwyddyn 1841. Cafodd yr enw oddiwrth hen wreigen a fu yn byw, ac yn gwerthu glo o'r lle hwn, tua phedwar ugain mlynedd yn ol. Bu merch iddi o'r enw Ann yn briod a dyn o'r enw Thomas Owen, yr hwn oedd yn bysgotwr enwog, ac yn cadw tafarn yn mhentref y Nantddu, yn ngodreu y plwyf hwn, oddeutu haner can mlynedd yn ol, pan nad oedd ond un ffordd dramwyol i deithwyr rhwng Merthyr a Chaerdydd; a'r ffordd hon, yr amser hwnw, yn arwain heibio drws eu ty, fel yr oeddid yn arfer sefyll yma i gymeryd ymborth ac ychydig seibiant.

Y fath yw cynydd a mawredd masnach yn y plwyf hwn, a hyny ar gyfrif ei gyfoeth mwnawl, fel mae y tyddynod oeddynt yn cael eu rhentu am ddeg neu ddeuddeg o bunoedd er ys canrif yn ol, yn cael eu rhentu yn awr, gyda yr un rwyddineb, am £50, neu £60 yn y flwyddyn. Cafodd hen daid i'r awdwr gynyg ar dyddyn Ynys Owen am £13 yn y flwyddyn, cyhyd ag y buasai careg yn afon Taf! Ond yr oedd mor ddall a methu gweled nad oedd hyny yn llawer na allasai wneud o hono. Tir Pencraig-daf a brydleswyd tua'r amser hwnw am £29 yn y flwyddyn, a phan aeth yr amod weithred hono allan, er ys ychydig mwy amser yn ol, codwyd ei rhent flynyddol i £104. A diau fod llawer o'r cyffelyb ar hyd a lled y plwyf a allem gofnodi, ond caiff y rhai yna wasanaethu yn enghreifftiau o rai ereill ag y mae y mwnau wedi bod yn achosion i beri y cyfnewidiad hwn.