Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bont Morlais, nid oedd ond un hen fwthyn tylawd yn sefyll yn yr amser hwn. Tua'r flwyddyn 1798. o herwydd fod mynwent yr hen eglwys agos yn llawn, prynodd Mr. Meyrick ddarn o dir dros yr Eglwyswyr, ar Dwyn-yr-odyn, at wneud mynwent, gan Samuel Rees, o'r Court, am ba swm o arian, nis gwyddom, am na fynegwyd hyny i ni mewn cysylltiad a'r dyddiad. Blynyddoedd maith yn flaenorol i hyn, adeiladwyd y tafarndy adnabyddus wrth yr enw Crown Inn, a Phen-y-fynwent, adnabyddus yn awr wrth yr enw Three Salmons, oeddynt hefyd yma y pryd hwnw, yn nghyd a'r Boot, a'r Angel Inn, yn nghyd a'r Bwthyn adnabyddus yn awr wrth yr enw Farmer's Arms, yr hwn oedd dy o'r hen arddull, a thô gwellt, a lloft isel; a chlywsom fod rhai o gymeriadau hynotaf y gymydogaeth, pan dan ddylanwad grymus Sir John Barleycorn, yn dangos eu ystranciau weithiau, trwy godi gwaith y crydd i gusanu y lloft, a brydiau ereill byddent yn myned trwy y seremoni hon pan dan ddylanwad eu nwydau anifeilaidd.

Nid oedd у lle hwn, er mor wledig oedd er ys 100 mlynedd yn ol, heb gael ei aflonyddu, a'i hynodi ar droiau gan ambell ymryson ac ysgarmes; na chwaith yn rhydd oddiwrth ymosodiadau gan glefydau, er fod ei hawyrgylch heb ei anmhuro gan fwg a nwyon afiachus oddiwrth y Gweithiau; oblegyd clywsom fod galwad am feddygon yr amser hwnw, neu tua'r flwyddyn 1756, yr hwn a gawd yn mherson y Dr. Pritchard, gynt o Gefn-y-fforest, yn y plwyf hwn. Bu yn feddyg ar y môr dros ysbaid 17 mlynedd, cyn dyfod i gadw ei swydd i'r ty a enwasom yn barod, ger llaw Pont Morlais, oddiyno y priododd ag etifeddes y Candon, ac y bu yn byw dros flwyddyn wedi hyny, cyn symud i'r ffermdy y soniasom am dano, yn nghwr isaf y plwyf.

Y fferyllydd cyntaf a fu yn y lle hwn oedd un o'r enw Bitles—Crynwr o ran barn a phroffes, ac yn meddu cymeriad da iawn yn yr ardaloedd; oblegyd nid oedd neb yn cadw y fath fasnach y pryd hwnw ond ei hun, efullai, yn y 10 milltir cylchynol. Ar ddiwrnod,