Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dygwyddodd i gorgi rhyw ymwelydd droi i mewn i'w siop, ac ysglyfaethu darn o gaws oddiarno, darfu iddo fod mor ffodus a'i weled yn cyflawni y weithred a dywedodd wrtho, "Wel, nid af i wneuthur un niwed i ti, y ci, ond rhoddaf air drwg i ti." Ac ar ol iddo fyned allan, aeth i'r drws, a gwaeddodd "Bad dog," &c. Dygwyddodd fod rhyw rai yn sefyll gerllaw, a meddyl iasant mai mad dog oedd ei leferydd, a ffwrdd a hwy ar ei ol, a'r canlyniad fu i'r lleidr gael goddef marwolaeth ddisyfyd am y weithred.

Ger y Boot yr oedd efail gof, ac un o'r gofiaid cyntaf a weithiodd ynddi oedd un a adnabyddid wrth yr enw Shon y gôf. Pedolai geffylau y wlad o gylch, yn nghyd a cheffylau Mr. Hill. Mae maelfa nwyddau yn awr yn y fan у safai gynt.

Arferid cynal y marchnadoedd yma yn yr amseroedd gynt ar hyd ochr yr heol, ac yn fwyaf neillduol o gylch y Boot, lle y byddai pob un o'r gwerthwyr a'i sefyllfan ei hun, oddigerth, fod rhyw un yn awr ac eilwaith yn gwerthu ei nwyddau, o gewyll, ar gefn ei geffyl. Nid oedd y farchnad yr amser hwnw ond bychan a dinod iawn, mewn cymhariaeth i'r hyn ydyw yn bresenol; a thra thebyg mai ar Dwyn-y-waun yr oeddid yn cynal marchnadoedd cyn dechreu eu cynal yn y lle hwn. Adeiladwyd y marchnad-dy presenol yn y flwyddyn 1838, ac nid cyn fod gwir angen am dano, oblegyd agoriad a chynydd y gweithiau—dylifiad dyeithriaid i'r lle, yn nghyd a chynydd cyflym y boblogaeth. Saif ar tua dwy erw o dir, ac y mae ynddo tua 112 o leoedd penodedig i gigyddion, a'r gweddill o hono, mewn cyfartaledd, yn gyfatebol i'r gwahanol fasnachau ereill. Mae ynddo bob peth i'w gael at gynaliaeth dyn, a hyny agos mor rhad ag unrhyw fan yn Nghymru. Goleuir ef y nos gan uwchlaw 90 o nwy[1] oleuadau, heblaw nifer mawr o ganwyllau sydd i'w canfod yn goleuo yr adeilad yma a thraw gan y gwerthwyr. Mae un rhan o hono, er ys blynyddau, yn cael ei rentu allan gan y perchenogion i fod yn ddangosfa chwareuyddol (theatre),

  1. Gorphenwyd y Nwy Weithiau yn y flwyddyn 1836.