Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd bont Morlais, yn nghyd a'r tir lle saif Eglwys St. David, a'r ysgoldai perthynol iddi, &c. Ac ar ol iddo fod yn derbyn llawer oarian oddiwrth berchenog ion adeiladau newyddion oeddynt yn sefyll ar y tir hwn, yn nghyd a £300 o gyflog flynyddol, dygwyddodd iddynt fod yn rhy fychan un flwyddyn i dalu y treth oedd, &c. a ddisgynai arno, o herwydd y fath nifer lluosog o dylodion addylifent i'r lle, yn nghyd a phrinder a drudaniaeth ymborth. Yn y flwyddyn 1800,yr oedd y blawd gwenith yn cyrhaedd y pris uchel o 15s yr 28ain pwys, yr halen yn 7½ y pwys, a phob peth arall mewn cyfartaledd. Dyma'r pryd y torodd y terfysg cyntaf allan yn Merthyr, yr hwn, yn nghyd a'r terfysg yn 1816, a'r un yn 1831, a roddwn i lawr yn y benod nesaf.

TERFYSG 1800.

Yn y flwyddyn 1800, dyoddefodd Merthyr yn ddirfawr oddiwrth brinder ymborth a drudaniaeth, yr hyn, yn nghyd ag iselder y cyflogau, fu yn achos i'r terfysg hwnw dori allan; trwy i niferi o derfysgwyr dori i mewn i dai, gan gymeryd yr hyn a fynent trwy drais oddiar y perchenogion, anfonwyd ar unwaith am filwyr i'r dyben o geisio rhoddi atalfa ar ffordd y canlyniadau niweidiol a allasent ddilyn. Ond parhau i ysbeilio, difrodi, a chwythu bygythion wnelent hyd yn nod pan oedd y milwyr ar y stryd gyda hwy, yn hwyfrydig i daro. Rhoddwyd rhybudd o awr i'r terfysgwyr i ymwasgaru os mynent, yr hyn yn ffodus a gafodd yr effaith briodol arnynt, fel y daeth yn ddiangenrhaid i roddi gorchymyn i'r milwyr wneud ymosodiad. Dyfod iad meirchlu Eniskillen, a meirchlu Caerdydd, ynnghyd a'r osgordd rhif yr 2il o'r meirchlu i'r lle, fuont hefyd yn gynorthwy i luddias ychwaneg o derfysg. Y tafarndy adnabyddus y pryd hwnw wrth arwydd y King's Head, yn yr heol-fawr, oedd yn cael ei gadw gan Mr. Thomas Miles; a'r Cae draw[1] sydd yn awr

  1. Perchenog boreuol y ddau Gae draw oedd Edwards Rheola, ac yna A. Hill, Ysw., ac yn olaf ei Ymddiriedolwyr a'i etifeddion