Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn llawn tai, oedd y pryd hwnw yn gae noeth. Hen wr ger y Castle Inn a gyfarchwyd gan un o gwmpeini y meirchlu ysgafn. "Ewch adref, hen dad," ar yr un amser gyda chyflymder diwyro yn taro darn o ymyl ei benwisg a'i gleddyf. Ni chollodd yr hen ddyn amser cyn gweled pa niwed a dderbyniodd ei het; a phan y gwelodd fod ei hymyl wedi ei dori dechreuodd deimlo am ei glust, pryd y deallodd nad oedd wedi derbyn yr un niwed. Cymerodd yr awgrym, a ffwrdd ag ef, gan ystyried fod un pâr o draed yn well na dau bar o ddwy law. Daliwyd a dihenddiwyd dau o flaenoriaid y terfysg hwn.

Cymerodd terfysg dibwys le yn Merthyr, yn y flwyddyn 1816, o herwydd gostyngiad yn nghyflogau y gweithwyr; ond adferwyd pethau i drefn y tro hwn cyn i un canlyniad gofidus gymeryd lle.

TERFYSG 1831

Hwn oedd y terfysg mwyaf pwysig o derfysgoedd Merthyr, a'r pwysicaf a gymerodd le erioed mewn cysylltiad a'r gweithfeydd yn neheudir Cymru. Ond gan fod cymaintwedi ei siarad a'i ysgrifenu, yn Gymraeg a Saesneg ar y terfysg hwn, ystyriem mai afreidiol myned i ragor o fanylion, na chofnodi ond y prif ddygwyddiadau yn unig. Dechreuodd y terfysg hwn tua chanol yr ail wythnos yn Mehefin, 1831, yr hwn a drodd allan yn atalfa llwyr ar fasnach, ac yn angeu i tua 16 o'r terfysgwyr, heblaw llawer o glwyfedigion ar y ddwy ochr, er na pharhaodd yr ymrysonfa ond tuag wythnos o amser. Anhawdd yw penderfynu i foddlonrwydd pa beth oedd gwir achos y terfysg peryglus hwn. Dywed rhai oddiwrth yr hyn allesid gasglu oddiwrth eu hareithiau, mai diddymu Llys Cyfiawnder, (Court of Requests,) oedd ganddynt mewn golwg Ereill a farnant mai eu hamcan oedd gorfodi meistriaid yr Haiarn Weithfeydd i godi cyflogau y gweithwyr, cyfiawn neu anghyfiawn. Barnai eraill mai y rhybudd oedd Mr. Crawshay wedi ei roddi i ostwng i rai o'i weithwyr yn y mwyn oedd wedi eu cynhyrfu; ac i'r dyben o geisio rhyddhau ei hun o fod