Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Guest y dorf yn alluog, ond i ddim dyben, yna darllenwyd y Riot Act; hyd hyn nid oedd un arwydd o ymwasgariad; dangosai pob un benderfyniad diysgog, fel y gorchymynwyd o'r diwedd i'r Highlanders anelu eu drylliau yn barod, yr hyn a wnawd gyda'r goddefgarwch a'r hwyrfrydedd mwyaf. Rhoddwyd amser i'r terfysgwyr wneyd eu meddyliau i fyny; ac fel y dygwyddodd yn fwyaf ffodus, dechreuasant ymwasgaru fel y daeth yn ddianghenraid i roddi y gorchymyn, "Taniwch!" o herwydd pe y dygwyddasai felly, diau y cymerasai ymdrechfa waedlyd le, ac aberth mawr ar fywydau, lle yr oedd nifer o derfysgwyr mor feiddgar. Parhaodd rhai o honynt eilwaith i ymddangos mewn agwedd fygythiol ar heol Aberhonddu; yr oeddynt wedi casglu cynifer a allasent o arfau i'r dyben o arddangos eu hunain mor frawychus ag y byddai yn dichonadwy, yn nghyd a banerau duon a chochion wedi eu trochi mewn gwaed lloi, gan eu cwhwfanu yn y ffordd hono, a ffordd Abertawy. Yn y prydnawn gorchymynodd Mr. Crawshay i'r milwyr glirio y terfysgwyr yn llwyr o Ferthyr, eu hamgylchu, ac ymosod arnynt yn ddidrugaredd os caffent gyfleusdra; ond yn ffodus ni chymerodd un weithred o bwys le rhwng nos Lun a boreu dydd Mawrth, yn amgen llwyddo yn ol cynllun Mr. Guest, i ddal 14 o'r rhai a ystyrid yn brif flaenoriaid y terfysgwyr; ac yn eu mysg yr hwn a gyfrifid fel y penaf o honynt,yr hwn a goll-farnwyd idd ei grogi am ei feiddgarwch, ei fygythion, a'i weithredoedd ysgeler, yn arwain fel y penaf y lluoedd i'r fath ymrysonfa waedlyd. Darfu i'r oll o'r gweithwyr dydd Mawrth blygu i fyned at eu gorchwylion mewn dystawrwydd ac ufudd-dod, fel yn arddangos yr edifeirwch dwysaf o herwydd yr hyn a gyflawnasent. Claddasant hefyd eu meirw gyda thawelwch a phrudd der, yn deilwng o'r un edifeirwch. Erbyn hyn yr oedd yn agosyr oll o'r arfau wedi eu rhoddi i fyny rhag iddynt fod yn achosion i'r gyfraith gael gafael arnynt. Felly terfynodd yr ymrysonfa bwysig hon, a gobeithid yn gyffredinol na welid y fath derfysg yma byth mwy.