Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn amser ein rhyfeloedd a'r gormeswr Bonaparte y 1af, yr oedd byddin o wirfoddolion ar Gefn Coed-y-Cymer, i'r dyben o fod yn barod pan fyddai galw arnynt fyned i'r maes yn erbyn y Ffrancod. Ac fel y mae plant yn dueddol i efelychu y pethau fyddont yn denu mwyaf ar eu sylw, arferai plant yr ysgolion ag ereill ymffurfio yn fyddin i ddynwared y fyddin wirfoddol y soniasom am dani. Wedi Mr. R. Crawshay glywed am, neu weled y fyddin ieuanc hon, rhoddodd wahoddiad iddynt ddyfod o flaen ei dy ef i ddangos en hunain gyda'u harfau coed, a gyfrifant hwy yn delweddu arfau angenol y milwr. Ac yn ol i'r dydd penodedig ddyfod, gorchymynodd iddynt wneyd eu ffug-ymladdfa, yn yr hyn y cafodd gryn ddyfyrwch a dyddordeb fel y rhoddodd iddynt yn helaetho fwyd a diod, yn nghyd a gini o arian idd eu rhanu rhyngddynt am eu gwrhydri.

Castell Crawshay a adeiladwyd yn y flwyddyn 1825, yn y man y safai yr hen amaethdy hwnw oedd yn myned dan yr enw Bryn-cae-Owen. Mae iddo 365 o ffenestri, un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn, am hyny, difuddiwyd ei berchenog o hono yn ffafr y Goron, hyd nes iddo wneud rhyw gydnabyddiaeth a'r llywodraeth am yr hyn a ystyrient yn drosedd. Costiodd ei adeiladu £30,000 ac y mae yn anrhydedd i'r ardal a'r wlad ei arddel; oblegyd y mae wedi ac yn bod yn artref achlysurol i ddynion a godasant o ddinodedd i fod yn mhlith y dynion cyfoethocaf a fedd y deyrnas, a'r cyfoeth hwnw, gan mwyaf, wedi ei gloddio allan o berfeddion y creigiau a gylchynant Merthyr Tydfil. Ar yr 21ain o Fai, 1846, dydd priodas Robert Thompson Crawshay, Ysw., yr oedd y castell wedi ei wisgo yn ei ogoniant, gyda gwyrdd-ddail a phob blodeuwaith addurnol a allasai y meddwl dynol, mewn byr amser ei gynllunio. Gwaith y Gyfarthfa wedi sefyll—maelfaoedd cymydogaethol oll yn nghau, a miloedd o ddynion, o Ferthyr i Droedyrhiw yn aros i'w weled ef a'i gymhares, fel y gallent gael hamdden i'w croesawi à banllefau, nes oedd glenydd yr hen Daf yn diaspedain.

Tua phedair blynedd yn ol, cymerodd mawr orfoledd