Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

collodd 49 o ddynion eu bywydau, ac y gwnawd lluaws yn weddwon ac amddifaid. Tuag at gynorthwyo y cyfryw yn nydd trallod ac helbul, casglwyd swm dda o arian trwy haelioni a charedigrwydd boneddigion a boneddigesau yr ardaloedd cylchynol. Perthynai yr oll o'r Gweithiau glo hyn, sydd ar diroedd Arglwydd Dynevor a Richards, 'i'r Crawshays, Gyfarthfa, a chludid y glo oddiwrthynt tua'r Gwaith dros gledrffordd a wnawd yn ystod y 10 mlynedd diweddaf. Troedyrhiw, fel Abercanaid, sydd bentref tra chyfleus a phrydferth, wedi neidio i fodiant yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, trwy fod y Gweithiau glo a enwyd, yn nghyd a glo bwll a agorwyd ar y Dyffryn gan y diweddar Mr. Hill, yn gyfleus iddo . Nid oedd yma cyn y cynydd diweddar oni nifer fechan o hen dai, sef tai Castell-y-wiwer, Pen-y-cwar, a Phont-y-rhun, yr hon a dderbyniodd yr enw, yn ol yr hyn a allwn farnu, oddiwrth Rhun Dremrudd, brawd Tydfil, a mab Brychan Brycheiniog. Un o'r tafarndai cyntaf ger y lle hwn oedd yr hen Harp, ond y mae amryw o honynt уп у lle yn awr, yn nghyd ag amryw faelfaoedd prydferth; ac ar у lle ysaif un o honynt yn awr, sef maelfa Mr. Sharp, yr oedd melin at falu yd ffermwyr y gymydogaeth, &c.; ac yn y ty perthynol i'r felin hon, yr arferai yr ymneillduwyr yn yr ardal ymgynull i addoli yn yr hen amseroedd; ond y mae gwawr rhagluniaeth wedi ymagor bellach uwch ei ben, fel y mae ynddo yn bresenol gystal ac mor gyfleus lleoedd i addoli ag sydd gan neb pentrefwyr yn Nghymru. Medda amryw dai ag sydd yn addurn i olwg y lle, sef eiddo E. W. Scale, Ysw., W. R. Smith, Ysw., L. Lewis, Ysw., ac ereill. Medda boblogaeth o 3,500.

GOLYGFA FOREUOL AC HWYROL AR FERTHYR A'I GYFFINIAU ODDIAR UN O'R BRYNIAU CYFAGOS.

Gyda bod arwr y dydd yn estyn o eithafoedd y dwyrain i dori ar ddystawrwydd y cyfnos, gwasgarai y nifwl a'r tarth i roddi ail gyfle i ddyn ganfod anian yn ei gwisgoedd amryliw a gogoneddus, yn nghyd a duwies celf yn marchogaeth ar adenydd ager allan o safleoedd y gwahanol gledrffyrdd, a'r llall yn dyfod i