Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y llifiad irad yrodd—yn wyllt
Hen alltud ddychrynodd;
Ac yn ei fraw, draw fe drodd;
O'r adwyth blin y rhedodd.

Rhedodd oddiwrth y rhodau—echrys
Mewn dychryn yn fuan,
A gwedd hyll; gwaeddai allan,
O wyr, dewch ! Mae'r byd ar dân."—R. Williams


YR EGLWYS WLADOL

Gwahaniaethir mewn barn mewn perthynas i'r eglwys a gyflwynwyd i fod yn goffadwriaeth am St. Tydfil. Myn rhai, ac yn eu plith Taliesin Williams (ab Iolo), i ni gredu nad oes gan hen eglwys Merthyr hawl i'r enw, am mai i St. Mary, meddent, y cyflwynwyd hi yn y dechreu, a bod yr eglwys a gyflwynwyd i St. Tydfil, yn sefyll ar gae Tydfil, yn y man y saif y Penydaren Mansion House; a thuag at brofi'r gosodiad neu'r dybiaeth hon, mae gweddillion hen furiau yr eglwys—y palmant—y mur oedd o gylch y fynwent, yn nghyd ag esgyrn bodau dynol a ddarganfyddwyd yno wrth gloddio sylfaen y ty a enwasom, Bu rhai o'r gweddillion hyny yn cael eu cadw, a'u harddangos dros lawer o flynyddoedd, yn Ngwaelod-y-garth, Merthyr. Dywed awdwr arall i Tydfil gael ei lladd ar fynydd Gelligaer, gerllaw Capel y Brithdir, lle mae maen a cherfiad arno. Yn y flwyddyn 1817, gosododd y Parch. J. Jenkins, D.D., diweddar weinidog y Bedyddwyr yn Hengoed, y llythyrenau ar ei ddyddlyfr, fel yr oeddynt ar y maen. [Gan mai yn hen lythyrenau Coelbren y Beirdd yr oedd y cerfiad, nid oes genym y fath yn y swyddfa.] Ar y 12fed o Ionawr, 1822, talodd Mr. William Owen, o Fon, ymweliad a'r Parch. J. Jenkins, D.D., pryd y cyfieithodd y geiriau i'r Gymraeg, yr hyn sydd fel y canlyn,

T F S E R M A
C N S R I L I
A S F D А N J
H I C S I А C І T


Y geiriau yn gyflawn sydd fel hyn,-

Tydfil Senta Regina Martyr
Censorius Kilemax
Acendera Fidelis Aniama
Hic Somaticus Jacit