Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chylchgrawnau misol Cymraeg a Seisnig, ac y cedwir tua 2,934 o gyfrolau yn cynwys llyfrau yn y ddwy iaith a enwasom. Sefydlwyd hon trwy danysgrifiadau gan tua 308 n aelodau, a llywyddir ei hachosion gan bwyllgor a etholir yn flynyddol o'r tanysgrifwyr. Ei blynyddol dderbyniadau ydynt tua £130. Mewn cysylltiad a'r llyfrgell hon mae Cymdeithasau Llenyddol, megys Young Men's Christian Association, a Mechanics' Institution; ei hysgrifenydd yw Mr. Thomas Stephens, (Casnodyn.) Y Gymdeithas Gymreigyddol gyntaf o werth sylw a gychwynnwyd yn y Patriot, ag a symudwyd oddiyno dan dywysiad Ab Iolo, Rhydderch Gwynedd, Gwilym Tew o lan Taf, a Lewis Morgan, Feddyg; a chynhelid canghennau o honni ar hyd tafarnau ereill, megys y Bell Inn, y Swan, The George, Dyffryn Arms, Bush Hotel, a'r White Horse Inn, ar Dwynyrodyn. Tua'r blynyddau 1840, 1841, 1842, 1843, a 1844, cynhaliodd y pwyllgor a enwasom amrai Eisteddfodau rhwysgfawr a mawreddus yn Merthyr, pryd meddir, y rhoddwyd y testyn ffug-hanesol a bugeilgerddol gyntaf yn Nghymru. A dywedai rhai mae yma y rhoddwyd y mesur arwrol gyntaf i gyfansoddi arno yn yr iaith Gymraeg. Ond ymddengys nad ydyw y dybiaeth olaf yn gywir, oblegyd mae gennym hanes i Daniel Ddu o Geredigion, a William Saunders, pryd hwnnw o Llanymddyfri, fod yn gyd-fuddugwyr ar gerdd-arwrol ar y Gauaf mewn Eisteddfod, yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1828. Ond beth bynnag am Eisteddfodau Merthyr, mae yn wirionedd profadwy iddynt fod yn achosion i ddadblygu llawer o dalentau, a chodi amrai enwogion i barch a sylw y genedl, megys T. Stepheus (Casnodyn,) awdwr " The literature of the Cymru," &c., Rees Lewis, Nathan Dyfed, Bardd y Grawerth, T. Powell, T. Davies, ac amryw ereill. Nid ydyw dylifiad estroniaid, na nerth llifeiriol y Saesonaeg, wedi llwyddo i ddiffodd y tan cenedlaethol a ferwa yn gwythenau y Cymro dros ei iaith, oblegyd cynhelir yma Eisteddfodau yn flynyddol mewn amryw fannau, megys yn Dowlais, yn Tabernacl, Merthyr, ac yr oedd y 10fed Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Neuadd Ddirwestol, Nadolig diweddaf, 1863. O gychwyniad yr Eisteddfodau hyn hyd yn awr maent wedi dwyn i'r goleu amryw sêr newyddion yn ffurfafen llenyddiaeth a barddoniaeth, megys Tydflyn, R. G. Jones, awdwr y "Darlithiau ar Lyfr y Dadguddiad," &c., J. Rees, Penydaren, awdwr "Rees's History of Merthyr," &c., Gwilym Gellydeg, Dafydd Morganwg, Ab Rhun, Howell Morganwg, ag ereill rhy faith eu henwi. Tua'r flwyddyn 1859, cynhaliwyd Eisteddfod