Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Unwaith, pan yn hela yn y Creigiau Bach, daliwyd ef gan gipar. Yr oedd yn ddigon mawr a nerthol i daflu'r cipar dros y gwrych, yn lle hynny gwahoddodd ef i eistedd ar dwmpath brwyn, a rhoddodd iddo licer o gostrel oedd yn ei boced, gyda haelioni mawr. Cyn pen ychydig yr oedd y cipar yn cysgu'n ddedwydd ar y mynydd, a'r hen Wilym Llwyn Gwilym yn clecian saethu'r petris o'i gwmpas.

Daethom o'r fynwent i'r pentref, a chawsom ymddiddan â nifer o blant bach bywiog a deallgar, anaml y gwelais eu cyflymach yn unlle. Erbyn hyn yr oedd yn bryd meddwl am ymborth, ac yr oedd ein harosiad yn y fynwent wedi oeri tipyn ar ein gwaed. Gwelais fod yr unig westy wedi newid er pan welais ef ddiweddaf. Byddai arwydd Cymraeg wrth ben ei ddrws, o gyfansoddiad Ab Ithel meddir, fel hyn,—

TAFARN YR HAUL.
Trwyddedwyd Rhisiart Rhys
i werthu cwrw a phorter.

Ond erbyn heddyw y mae'r hen westy wedi troi yn Sun Inn. Yn fuan iawn yr oedd y tecell yn berwi uwch ben tân mawr glân, ac yr oedd llian gwyn ar y bwrdd; a diflannodd ein newyn a'n hanwyd ar fyrder.

"Beth ydyw ystyr yr ymadrodd 'gwibed Mawddwy?'" ebe'm cydymaith.

"Hen totem y llwyth o bobl oedd yn byw yma ydyw'r gwibedyn. Tybiai'r llwyth ei fod yn disgyn o'r totem. Mochyn yw totem Mon, y ci yw un Dinbych, y carw yw un Dyffryn Tanad, yr ysgyfarnog yw un Pennant Melangell