Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall i'r afon. Bob tro y gwelaf adfeilion mawreddog hen fynachlogydd y Cisterciaid, byddaf yn galaru am y golled genhedlaethol gafwyd pan roddodd Harri'r Wythfed eiddo'r mynachlogydd i'r rhai fu'n ei ddysgu sut i ysbeilio'r eglwys, rhai y mae eu disgynyddion heddyw, yn ddigon aml, yn uchel eu cloch dros hawliau crefydd a chysegredigrwydd gwaddoliad. Murddyn, neu breswylfa rhyw Ysgotyn ariannol, yw mynachlogydd y gwn i am danynt. Maent oll, fel y Fanner yn y fan acw, mewn lleoedd dymunol a thawel,—mor werthfawr fuasent fel ysbytai, fel gwestai, neu fel amgueddfeydd. Daw llawer golygfa i'r cof wrth weled y muriau llwydion acw yn eu gwisg o eiddew,—meibion rhyfelgar Owen Gwynedd yn eu sylfaenu, y mynachod yn ymdeithio o Gwm Hir i'w cartref newydd cynhesach a diogelach, Llywelyn Fawr yn dod a'i roddion yn ei law.

Ond edrychwn ymlaen, yr ydym yn awr yn dilyn afon Mawddach,—ffrwd fynyddig erbyn hyn, ac nid afon fordwyol,—i'r Ganllwyd. Toc dyna ni'n aros o flaen gwesty Ty'n y Groes.

Nis gwn ddim o'i hanes. "Hen dy tafarn " oedd yr unig beth fedrwn gael wrth holi; ac adeilad gweddol newydd, heb fawr gamp ar ei gynllun, yw'r ty sydd yno'n awr. Gofynnais a allem gael lluniaeth, yn Gymraeg; a gofynnwyd i mi yn Saesneg beth oeddwn yn ddweyd. Agos gan mlynedd yn ol daeth Mr. Bingley, y teithiwr, yma; a dywed ef mai Sais gadwai'r dafarn y pryd hwnnw, ac mai prin ddigon o amser oedd wedi gael i ddysgu Cymraeg. Ychydig o dyniad sydd i Gymro at rai galwedigaethau. Gwelais ŵr mawr barfog yn fy nghyfarfod, a