Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

golwg byd da a helaethder beunydd arno,—ystiward oedd, ac Ysgotyn; y mae eu tynfa hwy i leoedd Cymreig fel hyn. Ac yntau'r Cymro, gwell ganddo dreulio ei fywyd i gau clawdd y mynydd ac i yrru ei wartheg i'r ffair na meddwl am fentro i'r byd, fel y gwna'r Ysgotiaid, i ennill cyfoeth a dylanwad.

Y mae'r olygfa o ddrws Ty'n y Groes yn un o'r golygfeydd hynny sy'n aros yn y meddwl, ac yn goreuro llawer breuddwyd. Yn ein hymyl y mae blodau hinsawdd gynhesach,—rhosynau, nasturtiums, a dahlias ysgarlad a gwyn. A throstynt gwelir prydferthwch gwyllt cyfrin Cymru. Tyrr yr afon yn ewyn yn y glyn dwfn odditanom; ymestyn mynyddoedd mawr i fyny ac ymhell ar ein cyfer, mewn gwisg o redyn a'i gochder bron fel cochder fflam; ymgyfyd y lartswydd tal cymhesur yn dawel i fyny o ymyl dwndwr y dŵr; estyn llawer derwen,—gweddillion hen aristocratiaid gwlad "brenhinbren y Ganllwyd,"[1] eu canghennau cedyrn y gellid tybio oddiwrthynt fod llwybr arferol y storm o bob cyfeiriad.

Yma hefyd y mae y "swn distawrwydd pell" y gŵyr plant y mynyddoedd am dano. Temtir fi i ddweyd nad oes gwesty yng Nghymru

  1. Derwen hynod am ei maintioli oedd hwn, dros bedair troedfedd ar hugain o amgylch. Erys darnau ohono fel paladrau olwynion melin ac fel dodrefn,—byrddau a chadeiriau,—ymhell ac yn agos. Y mae minion Mawddach a'i changhennau yn hynod am eu, coed,—hawdd iawn eu tyfu yno.