Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a golygfa mor arddunol i'w gweled o ddrws ei dŷ,—dyna glywais gan bob un fu'n sefyll ar ben ei ddrws.

Rhyfedd fel y mae chwaeth gwerin yn newid. Heddyw nid oes odid Gymro na wel ryfeddodau yn y Ganllwyd; ond bu adeg na welai gwerin Cymru brydferthwch yn natur wyllt, ac nid ymhell iawn yn ol y dysgodd ei weled. Ebe hen bennill am y fangre swynol yma,—

"Mae llawer pen boncyn o'r Dinas i Benllyn,
A dolydd i'w dilyn hyd lawr Dyffryn Clwyd;
Er garwed yw'r creigie sy' o gwmpas Dolgelle,
Gerwinach nag unlle yw'r Ganllwyd."

Clod i'r beirdd sydd wedi ehangu ein cydymdeimlad, ac wedi ein dysgu i weled prydferthwch mewn lleoedd oedd yn erwin i'n tadau, ac wedi ein dysgu i garu y gaeaf a'r ystorm. Onid yw hyn yn fwy o ychwanegu cyfoeth hyd yn oed na chynllunio ffordd neu adeiladu pont?

Ni fedrem fynd ymhell o Dy'n y Groes. Yr oedd Llanfachreth yn rhy bell; yr oedd y ddau bistyll,—Cain a Mawddach,—yn rhy bell hefyd. Ond cofiasom fod y Rhaeadr Du yn ymyl, a dywedid y gallem ei gyrraedd mewn rhyw ugain munud. Cychwynasom ar hyd y ffordd lydan sy'n rhedeg gyda godrau

"Hen greigiau mud Ardudwy,
Er pob rhyferthwy fu,
Sy'n gwrando'n syn—fyfyriol
Ar drwst y Rhaeadr Du."