Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y chwith gwelem Ddolmelynllyn, o'i amgylch y mae y distawrwydd hyfryd a'r dolydd braf gysyllta'r meddwl â phob hen blasdy. Daethom at afon Camlan, a gwyddem ar ei gwylltineb wrth ruthro dan y bont ei bod newydd gael rhedfa chwyrn. Troisom i lwybr sydd yn mynd i gwm cul coediog Camlan. Yr oedd heulwen, trwy ambell gawod, ar y coed; a byddaf fi'n meddwl nad oes dim mor iach ac mor hyfryd a'r ddau beth yma,—heulwen rhwng cawodydd ac arogl coedwig. Yr oedd yr heulwen honno fel pe'n ymhoewi yn ei balchder. Fflachiai weithiau ar y dail, oedd eto dan wlith y gawod, gan weddnewid eu gwyrdd ar amrantiad; ond ei hoff fan i ddisgyn oedd ar ewyn y mân raeadrau, neu ar frig crych rhyw don,—weithiau gwnai hwy'n ddisglair, dro arall rhoddai wawr euraidd iddynt, lliw y byddai raid i frenhines y weirglodd blygu ei phen ger ei fron.

Wedi cerdded ychydig hyd y llwybr trwy'r coed, a'r afon yn dawnsio o graig i graig odditanom, daethom yn sydyn i olwg y Rhaeadr Du. Yr oeddwn wedi bod hyd ffordd y Ganllwyd o'r blaen, ond ni ddychmygaswn fod golygfa mor arddunol mor agos i'r ffordd,—dim ond gwaith rhyw ddeng munud i droed chwim. Gellir dweyd am dano, fel y dywedai John Owen, Ty'n Llwyn am y Niagara, nad yw'n ddim ond pistyll. Ond y mae mor fawreddog ac mor brydferth fel y gallasai un heb fawr o natur bardd ynddo ddychmygu fod y coed sy'n tyfu i fyny'n uchel uwch ei ben yn ymgrymu i edrych i lawr arno, ac yn crynnu gan arswyd. Wedi dysgu englyn Dewi Wyn, ni fedraf fi