Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feddwl am geisio darlunio rhaeadr mwy, ac am hynny waeth i mi roi fy ffidil yn y to yn fuan nac yn hwyr. Ni welais un darlun yn gwneyd cyfiawnder â'r Rhaeadr Du; nac aed neb trwy'r Ganllwyd heb ei weled.

Yr oeddwn wedi meddwl mynd i fyny'r cwm coediog, i eangderau unig y mynydd, i ymorffwys yn nistawrwydd "hen greigiau mud Ardudwy." Ond yr oedd y nerth yn pallu; a gorfod i mi droi'n ol i orffwys. Gwelem fynwent draw, ac fel dynoliaeth luddedig, troisom i honno. Daethom at gapel ar ganol ei adgyweirio; ac ar ei dalcen yr oedd y geiriau Saesneg "Independent Chapel," paham y rhaid i gapelau, fel tafarndai, fynnu iaith y tu allan na chlywir hi y tu mewn?

Ond yn y fynwent y mae popeth yn Gymraeg. Mynwent hyfryd yw mynwent y Ganllwyd, wrth droed y bryniau coediog, a rhu dwfn yr afon odditanodd i'w glywed yn ddibaid. Ond ni wna hynny ond dwyshau'r tangnefedd perffaith geir yma, yng nghwmni mud y coed a'r beddau, ac arogl y blodau gwylltion yn pereiddio awel y mynydd. Enwau gyfyd adgofion yw'r enwau sydd ar y cerrig, dieithr ac eto'n adnabyddus,—Rhedyn Cochian, Gwndwn, Dôl Frwynog. Cwmheisian, Hafodlas, Polgoed, Buarthre. Y cyntaf roddwyd i orwedd yn y fynwent dawel oedd John Jones,—yn haf 1855. oedd hynny. Ac er ys deugain mlynedd y mae teuluoedd y Ganllwyd wedi prysur fudo yma, oherwydd y mae'r fynwent yn weddol lawn. Dvma'r englyn sydd ar fedd y cyntaf gladdwyd,—