Nid oedd gennym ond diwrnod i fyned ar hyd gororau Llydaw o Vannes i St. Malo, y lle y cychwynasom ohono. Ac felly, yn y tren y buom y rhan fwyaf o ddydd hir-ddydd haf. Yr oeddym erbyn hyn a'n hwynebau tuag adref, ac yr oedd Ifor Bowen yn bloeddio canu, pryd bynnag y byddai'n effro, -
"Y mynydd, y mynydd i mi,"
neu
"Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionnydd.”
Bryniau; meysydd oddiamgylch amaethdai bychain; genethod yn gwylio gwartheg a geifr; gwlad garegog eto, tywarchen deneu ar y cerrig, fel croen wedi ei dynnu'n dyn dros benglog; Questenberg, a ffordd dros y gwastadedd tua Phlwy Ermel ; geneth a throell, a gwastadedd eang distaw y tu ol iddi; Malansac, a gwynt ystorm yn ei choed; St. Jacut, gwastadedd, a bryniau'n ymylon pell iddo, a melinau gwynt arnynt; coed a thai uchel fel hesg ar y gwastadedd digysgod unig; cors eang ; Rennes fawr boblog ; daear frasach, gwlad gyfoethocach; tatws, gwenith, grawnwin, coed, dyna welwn trwy ffenestr y tren cyn hepian a chysgu ar y dydd hir, a chlywed gwaeddi Dôl, a deall ein bod o'r diwedd wedi cyrraedd Dôl yn Llydaw.
Cawsom aros teirawr yn Nôl. Aethom trwy'r stryd hir a'r farchnad foch i'r hen eglwys, a meddyliwn, wrth edrych ar ei mawredd syml, fod tri cyfnod wedi bod yn hanes meddwl Cymru,
- 1. Cyfnod ymhyfrydu mewn mawredd adeiladau, cyfnod adeiladu'r bwâu a'r ffenestri sydd eto yn deffro ein hedmygedd wrth weled hen furddynod fel Tintern.
- 2. Cyfnod ymhyfrydu ym mawredd a thlysni natur; y goedwig ydyw teml Dafydd ap Gwilym, a'r ehedydd ydyw ei gennad at Dduw.
- 3. Cyfnod ymhyfrydu mewn meddyliau,- gweled yr ysbrydol, ac anghofio'r allanol.