Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mater y boreu—ac felly y bu. Fe roddwyd ar ddau wr, un o'u tu hwy, ac un o'm tu finnau; a gofyn yr oeddynt oedran y ceffylau, minnau yn eu rhoi yn hen iawn, a rhai yn ddeillion, fel y rhoid digon bychan o bris—ac felly fu. Mi a ddaethum yn well nag y disgwyliais; un yn prynnu a'r llall yn gwerthu, mi a'u cefais yn ol, trwy dalu ynghylch hanner canpunt.

Ar ol hynny, mi a ddaethum yn fwy adnabyddus ac yn fwy fy mharch ymhlith estroniaid nag o'r blaen, trwy iddynt ddeall mai cam oeddwn yn ei gael.

Y gate oedd y flwyddyn gyntaf yn lled gwla o ran proffit; yr oedd fy merch hynaf yn rhoi y cwbl i lawr a dderbynid ynddi; ond yr ail flwyddyn hi a dalodd yn bur dda; a'r drydedd fe godwyd arni 15 punt, ond nid drwg oedd hi yno. Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw y Gyheureth neu ledrith; weithiau hersiau a mourning coaches, ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor amlwg ag y gellir gweled dim, yn enwedig liw nos. Mi welais fy hun, ryw noswaith, hers yn myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harneis, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio. Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gate,"Edrwch acw," eb ef, "dacw ganwyll