Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorff yn dyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw" felly ni a ddaliasom sylw arni yn dyfod, megis o'r tu arall i'r lan; weithiau yn agos i'r ffordd, waith arall ennyd yn y caeau; ac ymhen ychydig, bu raid i gorff ddyfod yr un ffordd ag yr oedd y ganwyll, oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o eira. A thro arall rhyfedd am hen wr o Gaerfyrddin, a fyddai yn cario pysgod i Aberhonddu, a'r Fenni, a Monmouth, ac yn dyfod a glosterchus teneuon gantho yn ol; yr oedd fy mhobl i yn gwybod ei fod ef ar ei daith, ac yr oedd yr hin yn ddrycinog iawn, o wynt ac eira lluchio; a chanol y nos, fe glywai fy merch i lais yr hen wr yn y gate, a'u mam a'u galwodd hwynt i agor ar frys, ac erchi yr hen wr ddyfod i'r ty at y tân. Codi a wnaeth y ferch; erbyn myned allan nid oedd yno neb, a thrannoeth dyma gorff yr hen wr yn dyfod ar drol, gwedi marw yn yr eira ar fynydd Tre'r Castell, a dyna'r gwir am hwnnw. Llawer yn rhagor a ellid adrodd o'r fath bethau, ond nid ydynt ddim gwerth eu hadrodd, am nad oes fawr a'u coeliant. Ond ar ol y drydedd flwyddyn yn y gate, mi a gymerais lease yn Llandeilo Fawr, ac a wnaethum dy i'r merched gadw tafarn; a minnau o hyd yn cario coed. Fe ddarfu i'r merchant yn Abermarlais adeiladu llong fechan, a gariai gwmpas 30 neu 40 tunell; fe a'i gwnaeth hi yn y coed, cylch milltir a chwarter oddi wrth afon Tywi, pa un a fyddai yn cario llestri bychain ar lif i Gaerfyrddin; ond hon a wnaed yn rhy drom i'w llusgo at yr afon yn y dull yr oedd y gwr yn bwriadu, sef i bobl ei llusgo, o ran ysbort. Fe roes gri mewn pedair o lannau fod llong yn Abermarlais i gael ei lansio