Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd gennyf ond wylo weithiau, a chreuloni waith arall, a dywedyd wrtho ef un tro, nad oedd dim help, y byddwn i yn Dwm o'r Nant yn y North, pryd na byddai efe ddim yn Feistr Lewis nag yno nag yma; ac felly fu. Mi gefais yr anrhyd- edd o'i weled ef ar geffyl yn Ninbych gyda'r baili- aid yn myned i garchar Ruthyn, ac a ddywedais à llef uchel, mai dyna yr olwg oreu a ddymunwn weled arno, oni bai i mi gael yr olwg arno yn myned o'r jel i'r Gallegfa, lle byddid yn crogi lladron. Ond ymhen ennyd, fe ga'dd ef fyned yn fancrafft, i safio talu i neb; ac y mae efe yn awr, am wn i, mewn gwlad nad oes orffen talu byth. A rhyfedd mae pob peth yn tynnu i'w elfen; yr wyf yn cofio i mi setlo âg ef yn Llandeilo; ac yr oedd ganddo orders i ddal chweugain oedd arnaf yn fferi Talycafn pan fuaswn yn myned ag organ i Fangor. A minnau a setlais âg ef am hwnnw; mae y cyfrif i'w weled eto yn y llyfyr lle yr oeddym yn cyfrif. Ni thalodd ef ddim; fe fuwyd yn fy ngofyn ymhen y saith mlynedd. Minnau a ddanghosais y llyfyr, fy mod gwedi setlo iddo ef. A llawer o gyffelyb bethau a wnaeth ef â mi ac eraill.

Ond ni waeth tewi-adref y daethum i o Ddeheubarth, heb na cheffyl na wagen; ac nid oedd dim gennyf i droi ato oddieithr gwneyd interliwd; a hynny a wnaethum. Yn gyntaf, mi aethum i Aberhonddu, ac a brintiais interliwd, y "Pedwar Pennaeth; sef Brenin, Ustus, Esgob, a Hwsmon," a dyfod at fy hen bartner i chwareu honno, a gwerthu y llyfrau, a chyda hynny yn cynull subscribers at argraffu llyfr caniadau, sef, Gardd o Gerddi." Fe argraffwyd hwnnw yn