Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nhrefecca; mi a delais am hynny £52, ac a ymadewais a dwyfil o lyfrau. Ac yn ganlynol, mi a wnaethum interliwd "Pleser a Gofid," ac a chwarusom honno, a thrachefn interliwd ynghylch "Tri Chryfion Byd, Tylodi, Cariad, ac Angau." Canlyn hynny yr oeddwn i, a'm teulu yn Llandeilo yn gorffen cadw tafarn, a gorffen hefyd hynny oedd o eiddo.

Mi a ddaethum â'r ferch ganol o'r tair gyda myfi i'r North yn gyntaf, ac a'i prentisiais yn Nghaer, yn filliner, ac a'i cedwais â chynaliaeth bwyd a dillad, wrth chwareu. Ac o'r diwedd fe ddaeth y wraig adref gyda'r ddwy ferch eraill, ac a baciasant ryw faint o bethau, gwely, a dillad, a llyfrau; ac fe aeth y pac trwy Lundain; fe gostiodd am eu cario ynghylch cymaint ag a dalent. Ond fe ddigwyddodd i mi gael arian oedd ar Cynfrig o Nantelwyd am gario coed o Ruddlan, pan oeddwn yn cario coed Rug; ac hefyd am gario centre pont Rhydlanfair o Gaer. Yr oedd hynny, gyda chwareu, yn dipyn o help at gynnal y teulu. Pan ddaethom i Ddinbych, nid oedd un ty, nes y digwyddodd i mi gael rhyw ddau dy bychan, a minnau a'u gwnaeth yn un, ac a'u teclais; a dyna lle yr wyf fi a'm gwraig eto.

Ac yr oedd gan fy nhad dŷ a thipyn o dir, rhwng Nantglyn a Llansanan; ond pan fu nhad farw, fe aeth cyfreithiwr Dinbych am yr hen felltith, ac a droes fy mam i'r mynydd, ac a feddiannodd y tir; a chyda chwaer i mi wrth Lanelwy y bu fy mam farw. Ac ar fyrr gwedi hynny, fe ddaeth clefyd ar y cyfreithiwr; minnau a ysgrifenais ato yn lled erchyll, ac a ddechreuais osod rhai o ddychrynfeydd uffern ger ei fron; yn