Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


Tri Chryfion Byd.
43
Hwy gan frwchan i'w cinio, a llith, a chawl
cenin,
Uwd a llymru, a bytatws a llaeth enwyn,
A chaws gan gleted a lledr clytio,
Wiw son am ymenyn na disgwyl mono.
Tom. Ateliwch eich tafod,-does ond Sir Aber-
teifi,
A pheth o Sir Gaer, fel yna'n rhagori.
Gwidd. Mae bywolieth galed lawer tro,
Trwy wledydd lle bo tlodi.
Tom. Wel gan i chwi fygwth cymaint aflwydd
Mae rhyw alwedigeth i bawb yn digwydd;
Rhaid i bawb geisio offer i ymladd am fwyd,
A'r crydd gael mynawyd newydd.
Gwidd. Wele un o chwedle gwir y Saeson,-
"Necessity is the mother of invention;"
Ni wnae neb fawr, mi wrantaf fi,
Ond rhag tylodi a dyledion.
Myfi ydyw'r Fadam, 'rwyf fel gwialen fedw,
Mi chwipiaf ac a giciafrai yma ac acw,
Mi wnaf i bawb gychwyn tra fo hoedl ac iechyd,
Neu os trinian hwy ddiogi, hwy dron i ddygyd.
Tom. Chwi yrasoch rai i'w crogi,
Rhwng balchder a gofidi;
Ac rhagoch chwi mewn cynni caeth
Rhyfeddod aeth i foddi.
A llawer lodes ledrydd
Aeth i hwrio o'ch herwydd,
Rhai i ladrata, gwaetha gŵyn,
A'r lleill yn ca'lyn celwydd.