Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r rhai sy'n cael y cyflog penna',
Ymhob lleoedd, sy'n gwneuthur lleia';
Maent hwy'n mynnu rhan. Mi dd'wedaf i,
Dan fy nwylo, mai chwi sy'n ola'.

Bren. Taw a son dy ffol gamsynieth,
Onid rhaid i bawb gael eu bywolieth?

Rhys. Wel, maent hwy'n gwneuthur ymhob man,
Hynny fedront o anllywodreth.

Beth am y gwŷr sy'n derbyn trethi,
A'r superfisors sy'n rhai pur fisi?
Nid y'ch chwi'n cael, i'ch traul a'ch tro,
Mo'r hanner o ddwylo rhei'ny.

A phe gwelech chwi mewn dirgelion,
Y gwas esmwyth ydy fo'r ecseismon,
Mynd at wraig y dafarn yn ambell dŷ,
Man arall ymgwerylu'n greulon.

Ni waeth i dafarnwr lledwan
Fod rhwng y tân a'r pentan;
Ni chaiff un o'r rhei'ny fywiolieth dda,
Heb hwrio, neu fenthyca'u harian.

Ac mae gennych chwi wych o weision,
Tua glanne'r moroedd mawrion;
Pan fo smyglo ar y traeth fe fyddan' hwy yn y tŷ,
'R hen faeddod, yn rhy feddwon.