Tudalen:William-Jones.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"I chwilio amdanat ti, os gweli di'n dda. Ac 'roedd o'n aros i lawr yma nes bod hi'n twllu bob nos. Mi fasa'n well iddo fo aros adra i ganu'r ffidil ne'r piano o lawar. 'Roedd Idris Morgan yn deud wrtha'i... Caea' braf, yntê? 'Fûm i 'rioed yn gweithio mewn cynhaea' ŷd, hogan. Wrth gwrs, 'doedd gynno' ni ddim caea' ŷd yn Llan-y-graig acw. Ond mi fyddwn i'n mynd i'r gwair yn reit selog. Diawch, 'rydw i'n cofio unwaith ..."

"Be odd Idris Morgan yn 'weud, Wncwl?"

"Am be'?"

"Am Richard Emlyn."

"O? Deud 'i fod o'n gerddor champion, hogan, ac os bydd o'n dal ymlaen i ymarfer fel y mae o, y bydd o'n siŵr o ennill ysgoloriaeth i ryw Royal College tua Llundain 'na. Ond dyna fo, un fel 'na ydi Idris."

"Beth ych chi'n feddwl, Wncwl?"

"Un am ganmol pawb. 'Roedd o'n deud fy mod i yn denor gwych, hogan!"

"Ond ma' Richard Emlyn yn gerddor." Fflachiai tân drwy'r dagrau yn llygaid Eleri.

"Wn i ddim, wsti."

"Shwd 'odd a'n cal 'wara' i'r Messiah, 'ta'?"

"Ia, ond ..."

"A phan on nhw'n brodcasto o'r cwrdd, fe gas 'wara'r organ."

"Ia, ond ..."

"A beth am y 'steddfod 'na yn Nhre Glo pan enillws a ar 'wara'r violin? Fe 'wetws y beirniad

"Falla' dy fod ti'n iawn, hogan. 'Falla', wir. Mi fûm i yn y parlwr hefo fo y diwrnod o'r blaen. Dydd Sul oedd hi, dywad? Ia, ar ôl te pnawn Sul. Diawch, 'roedd 'i fysadd o'n medru symud ar y biano 'na! Ond dyna le blêr oedd yn 'i barlwr o!

"Nid arno fe ma'r bai fod y lle'n shangdifang, Wncwl!" "Ar bwy, 'ta'?"

"Ych chi'n gwbod shwd ma'i fam a'n trampo obothdu i ganu o hyd yn lle gofalu am y tŷ. A'i dad a'n mynd mas i yfad yn yr hen Glwb 'na. A wedyn, ma' dou o blant bach yno heb sôn am Gomer a Nan."

"Oes, mi wn i, ond ... Ac eto, chwara' teg iddo fo, mae Richard Emlyn yn reit lân a thwt bob amsar. Ydi, ond iti