fynd i sôn am y peth, hogyn go lew ydi Richard Emlyn. Ia, wir, hogyn clên. Hen fôi bach iawn ydi Gomer, 'i frawd o, hefyd, ond 'i fod o fel tramp hyd y lle acw weithia'. Mae Wili John yn rêl gŵr bonheddig wrth 'i ochor o."
"Ond ma'n rhaid i chi gofio fod Wili John yn gwitho, Wncwl, a Gomer heb gal job ariôd."
"Rhaid, o ran hynny, hogan."
Bu tawelwch rhyngddynt am amser, ac Eleri'n syllu'n freuddwydiol drwy'r ffenestr. Daeth pwl arall o wylo trosti
"Fydd Dada'n gas, Wncwl?"
"Yn gas! Na fydd, 'nen' Tad. 'Roedd 'na lot o fai arno fo, wsti. 'Wn i ddim be' ddaeth trosto fo, ond mi wyddost na fedar o ddim diodda' hogyn Huw Bowen. Mae dy dad yr un fath â finna'. Os bydd rhywun yn dipyn o lanc, mae 'i wrychyn o'n codi ar unwaith. . . Ond paid â chrio, Eleri fach. Mi fyddwn ni'n chwerthin am ben hyn eto, 'gei di weld. Ond 'roedd 'na lot o fai ar dy dad, mae'n rhaid imi ddeud."
"Nac odd. 'Odd dim bai ar Dada."
"Wel, hynny ydi... Na, paid ti â chrio 'rŵan, 'ngariad i."
"Na, Dada odd yn iawn. Ac o, 'wy'n flin, Wncwl." Aeth yr wylo'n ganmil gwaeth.
"Aros di, faint ydi d'oed di, dywad?"
"Dwy ar bymtheg, Wncwl."
"Taw, hogan! O, yr on i'n hŷn na thi, wsti."
Ni ddeallai Eleri, a sychodd ei dagrau cyn gofyn, "Yn hŷn, Wncwl?"
"Pan ddengis i o gartra. On, yr on i'n ugain oed." Edrychodd Eleri'n syn arno. Wncwl William wedi dianc oddi cartref yn ugain oed! Credasai hi mai dyn bach diniwed tros ei hanner cant â'i gorun bron yn foel a fuasai ef erioed.
"I ... i b'le'r ethoch chi, Wncwl?"
"I Lerpwl, hogan. Ia'n Tad, i Lerpwl." Rhoddai'r ailadrodd gymorth i ddyfeisio'r stori.
"Pam Wncwl?"
"O, wedi blino ar Lan-y-graig, wsti, ac ar fynd i'r hen chwaral 'na bob dydd. 'Doedd 'na ddim byd yn digwydd yn y Llan acw, dim ond Huw Ifans, tad Now John, yn cwffio hefo'r plisman o flaen y Bwl ne' Meic Bwtsiar yn lladd tarw ne' fochyn weithia'. Ac felly, i ffwrdd â fi i Lerpwl yn slei