Tudalen:William-Jones.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bach un dydd Sadwrn. Diar 'roedd 'na le yn Llan-y-graig ar ôl imi fynd! 'Roeddan nhw wrthi'n dragio'r Pwll Dwfn, hogan, a chriwia'n crwydro hefo lampa' hyd y mynydd bob nos. Golygfa dlos oedd y lampa' ar y Foel-meddan nhw." Ychwanegodd y "meddan nhw," gan gofio mai yn Lerpwl yr oedd ef. "Ia, wir, hogan."

"Beth ... ddigwyddws, Wncwl?"

"O, mi fuost ti'n fwy lwcus na fi, wsti."

"Shwd?"

"Hefo'r tywydd a hefo cael gwaith. Mi fûm i'n ddigon o ffôl i ddengyd i ffwrdd yn y gaea', ym mis Ionawr, a lle ofnadwy sy tua'r Lerpwl 'na yr adag honno. Ia, 'nen' Tad. Rhewynt fel rasal a chenllysg fel marblis. Mi ges i le i aros yn · yn Bootle hefo rhyw Wyddelod, ac er 'i bod hi mor oer, 'roedd isio chwydd-wydyr i weld y tân oedd yn y gegin. Lle sål gynddeiriog oedd hwnnw-y dyn yn meddwi bob nos a'r wraig yn rhegi fel cath ac un o'r plant yn cael ffitia' a'r babi'n sgrechian drwy'r dydd a thrwy'r nos. 'Doedd gin i mo'r stic sy ynot ti, hogan. Na, dim ond rhyw dri diwrnod arhosis i yno, a 'fum i 'rioed yn falchach o weld Llan-y-graig na phan drois i adra. Byth eto! meddwn i. Nefar agen!" Yna chwarddodd William Jones. "Ond ydw i'n un da, Eleri?"

"Pam, Wncwl?"

"Wel, dyma fi, yn ddyn â'i gorun yn foel, wedi gwneud yr un peth eto! Ond 'mod i wedi dwad i'r Sowth y tro yma yn lle mynd i Lerpwl, yntê? A'i sticio hi am dros flwyddyn yn lle tri diwrnod. Diar, pan gyrhaeddis i Lerpwl a mynd i chwilio am rywla i aros, mi fu bron imi â thorri 'nghalon a dal y trên yn f'ôl ar unwaith."

"A finna', Wncwl." Yr oedd y dagrau'n llif eto. "Ond mi sticiaist ti hi am wsnos wel'di. Nid rhyw dri diwrnod fel dy Wncwl. Ond 'falla' bod gin ti well lle i aros nag oedd gin i."

"Odd. 'Da whâr Beti."

"Pa Beti?"

"S mo chi'n 'i 'nabod hi—Beti Francis odd yn yr ysgol 'da fi yn Nhre Glo. 'Odd Beti ar y bws, a ma' hi'n gwitho yn y sinema 'na yng Nghaerdydd. Hi 'wetws wrtho'i fod un o'r merched yn dost a dwy arall yn mynd ar 'u holides a bod y Manijar yn whilo am rai yn 'u lle nhw. Mi ethon ni'n syth