Tudalen:William-Jones.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Syllodd William Jones eto i'r tân, gan wylio'r fflam a droai'n fwg, ac yn fflam, ac yn fwg. Yr oedd y tŷ'n dawel iawn, fel petai yntau'n gwrando ar sŵn y gwynt a rhuthr y glaw. Rhyw dawelwch astud, disgwylgar, lle bu chwerthin anorchfygol Crad. .. Byddai Meri'n unig 'rwan. Byddai, yn arbennig ar nosweithiau'r côr, ac ni ellid disgwyl i Wili John aros yn y tŷ bob tro yn gwmni i'w fam. Ond yr oedd hi a Mrs. Morgan y drws nesaf yn gyfeillion mawr, a gallai fynd draw yno i sgwrsio a gweu... Rhyfel? Lol i gyd. Pam yr oedd Arfon yn gwastraffu arian ar ryw bapur cyffrous fel hwn'na, tybed?

Daeth tincial llestri'r swper o'r gegin fach. Diar, yr oedd rhywbeth cyfeillgar ac agos-atoch mewn sŵn llestri, onid oedd? Sŵn llestri a golau tân ar noson o Dachwedd fel hon, a theimlai dyn ar ben ei ddigon... 'Faint o awyrblanau a oedd gan yr Almaen, hefyd, yn ôl y dyn 'na? Twt, codi bwganod yr oedd y creadur... I b'le y dywedodd Eleri ei bod hi'n mynd gynnau O, ia, dim ond tros y ffordd i dŷ Ned Andrews, gan fod Rachel gartref o Lundain am ychydig ddyddiau. Hogan glên a llon oedd Rachel, yntê? Ond rhywfodd edrychai'n syn a dwys y tro hwn, fel un a hiraethai am gael aros gartref yn lle gweini yng nghanol unigrwydd Llundain. Daria unwaith, gartref y dylai'r ferch a llu o rai tebyg iddi fod, nid yn sgwrio lloriau a golchi llestri mewn rhyw glamp o dŷ yn Llundain. Ia, 'nen' Tad. Diolch nad aethai Eleri i ffwrdd; ac fe fynnai ef ei bod hi'n mynd i'r Coleg 'na yn Abertawe, a gofalai na fyddai hi ar ôl o ddim yno. Beth pe dôi proffwydoliaeth y dyn 'na'n wir a thorri o'r rhyfel y soniai amdano? Twt, ffolineb oedd meddwl am bethau felly. Ond eto, efallai fod ei ffeithiau'n rhai cywir ac nad siarad drwy'i het yr oedd. Beth a ddeuai o'r plant, tybed? O Arfon? O Wili John? Ac o hogiau fel Richard Emlyn a Gomer? Diolch mai merch oedd Eleri—ond dyn a wyr, efallai y tynnai'r anghenfil enethod fel hi a Rachel Andrews i'w grafangau y tro hwn. Ac nid yn unig enethod fel Eleri, ond gwŷr a gwragedd a phlant mewn trefi a phentrefi ymhell o faes y gad. Yn ôl y papur 'na, yr oedd y mustard—gas yn Abyssinia wedi dallu a llosgi miloedd ar filoedd o frodorion diniwed, ac yna syrthiai'r bomiau ar yr ysbytai lle caent driniaeth a nodded ... Ni ddylai papur gyhoeddi pethau fel yna. A beth ar wyneb y ddaear a wnaeth i Arfon brynu'r fath lenyddiaeth?